Tân mewn eiddo yn Nercwys
PostiwydMae’r gwasanaethau brys wedi delio gyda thân yn Nercwys ger yr Wyddgrug.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i adroddiadau o dân mewn cyfeiriad yn Ffordd Pen y Bryn, Nercwys am 21.51 o’r gloch neithiwr (Nos Lun 8fed Ionawr).
Anfonwyd pedair injan at y digwyddiad, dwy o Lannau Dyfrdwy ac un o’r Wyddgrug a Bwcle. Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i daclo’r tân a oedd wedi ei gyfyngu’n bennaf i do gwellt yr eiddo.
Roedd y to gwellt yn wenfflam pan gyrhaeddodd y criwiau tân ac roedd dyn yn ei 50au eisoes wedi llwyddo i ddod allan o’r eiddo.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.
Cafodd y to gwellt ei ddifrodi bron yn llwyr gan y tân.
Cynghorir trigolion gyda tho gwellt i sicrhau bod eu simneiau wedi eu hinsiwleiddio a’u bod wedi cael eu harchwilio gan beiriannydd simneiau cymwys ac ystyried gosod ataliwr gwreichion ar eu simneiau. Mae hefyd yn bwysig iawn gosod larymau mwg drwy’r adeilad a gosod larwm cydgysylltiol yng ngofod y llofft.