Derbyn yr alwad a dod yn ddiffoddwr tân proffesiynol – dyma’r neges gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan mewn wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol, “Eisiau Mwy”, sydd yn cychwyn ar y 7fed o Ionawr 2019 i amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael fel diffoddwyr tân ar alwad (neu system ddyletswydd rhan amser) yn y gwasanaeth tân ac achub, a chwalu’r mythau ynghylch y gofynion i fod yn ddiffoddwr tân.
Mae’r ymgyrch yn cael ei gefnogi gan wefan genedlaethol www.oncallfire.uk sydd yn annog pobl i gysylltu gyda’u gwasanaeth tân lleol, ym mis Ionawr neu unrhyw bryd drwy gydol y flwyddyn.
Mae diffoddwyr tân ar alwad yn ymateb i bob math o ddyletswyddau gwasanaeth tân ac achub; mae’r rhain yn amrywio o alwadau brys, gweithio yn ystod diwrnodau agored, cwblhau gwaith yn y gymuned leol a bod yn eiriolwyr ar gyfer y gwasanaeth tân ac achub.
Mae diffoddwyr tân ar alwad yn dod o bob math o gefndiroedd, gan gynnwys pobl sy’n gofalu am y cartref, perchnogion siop, adeiladwyr, ffermwyr, gweithwyr swyddfa a chyfarwyddwyr cwmnïau, ynghyd â phobl sydd ddim mewn gwaith ar hyn o bryd. Mae hyfforddiant lawn yn cael ei ddarparu yn rheolaidd, felly nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Fe all diffoddwyr tân ar alwad gael eu galw allan ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau y maent wedi cytuno i fod ar alwad ac mae nifer y galwadau y maent yn eu derbyn yn amrywio.
I fod yn ddiffoddwr tân ar alwad mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol:
- Awch i gefnogi’r gymuned leol.
- Brwdfrydig dros weithio fel rhan o dîm.
- Lefel resymol o ffitrwydd personol
- Byw a/neu weithio o fewn 5 munud i’ch gorsaf dân leol (mae modd ehangu’r amser ymateb hwn dan amgylchiadau eithriadol).
- Dros 18 oed
Meddai Nicola Jones, Uwch Swyddog Recriwtio: “Mae diffoddwyr tân ar alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth a’n cymuned. Maent yn unigolion sgilgar iawn ac uchel eu parch sydd yn rhoi o’u hamner, ac weithiau amser o’r gwaith neu gyda’r teulu, i gyflawni rôl broffesiynol y diffoddwr tân.
“Mae eu hymrwymiad yn un sylweddol, ond mae’r boddhad a’r sgiliau a’r hyfforddiant trosglwyddadwy y maent yn ei dderbyn yn gwneud y cyfan werth chweil.
“Nid oes y fath beth â diffoddwr tân arferol ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned – mae’r Gwasanaeth yn recriwtio ar sail teilyngdod a gallu, felly os ydych chi’n ddyn, dynes, byr neu dal, a’ch bod chi’n meddwl bod gennych chi’r gallu yna ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.oncallfire.uk i gofrestru’ch diddordeb yn y rôl ac i gael gwybod mwy am sesiynau blasu a nosweithiau agored.
“Mae’r Gwasanaeth hefyd yn awyddus i glywed gan gyflogwyr sydd yn barod i wasanaethu’r gymuned trwy ryddhau staff o’u gweithleoedd i amddiffyn eu cymuned – hoffem rannu gwybodaeth am y buddion sydd ynghlwm â chyflogi diffoddwyr tân megis hyfforddiant iechyd a diogelwch ac ymateb meddygol, yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth sefyllfaol, sgiliau arweinyddiaeth a’r gallu i weithio dan bwysau.”
Os ydych chi ‘Eisiau Mwy’ allan o fywyd ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.oncallfire.uk