Tân eithin ar ochr mynydd ger Llangollen
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda thân ar fynydd Llangollen dros nos.
Cafodd tri cherbyd tân o Langollen, Y Waun a Johnstown eu hanfon i’r digwyddiad am 21.58 o’r gloch neithiwr (Dydd Gwener 22 Chwefror), gyda dau griw o Wrecsam a Chorwen yn cyrraedd i ryddhau yn ystod oriau mân y bore.
Mae un cerbyd yn parhau i fod ar safle’r digwyddiad tra fod y tân yn cael ei fonitro ac yn llosgi allan o dan wyliadwriaeth.
Mae’r tân wedi effeithio ar ardal o eithin a rhedyn sy’n ymestyn i tua 50,000 metr sgwâr.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Richard Fairhead: "Rwy'n annog pobl i feddwl o ddifrif am ganlyniadau tanau eithin.
"Fel y gwelwyd yn y gorffennol, mae'r fath danau roi pwysau aruthrol ar adnoddau, gyda’n criwiau yn cael eu hymrwymo am gyfnodau hir i geisio dod â’r tanau dan reolaeth, sydd yn ei dro yn achosi oedi pan fydd angen i ddiffoddwyr tân fynychu achosion sy’n bygwth mewn mannau eraill.
“Ni fyddwn yn goddef tanau mynydd a gwair o’r fath - nid yn unig oherwydd eu bod yn arwain at ddinistrio mynyddoedd a bywyd gwyllt, ond am eu bod hefyd yn rhoi bywydau mewn perygl tra fod criwiau yn delio gyda thanau wedi eu cychwyn yn ddiangen.
"Rwy'n annog aelodau'r cyhoedd i ddod ymlaen os oes ganddynt unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y dechreuodd y tân neu os oeddent yn dyst i unrhyw weithgarwch amheus sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.
"Mae tanau sy'n cynnwys glaswellt, eithin a rhedyn yn gallu datblygu’n gyflym iawn, yn enwedig mewn amodau sych gyda gwyntoedd uchel, a gall tanau fynd allan o reolaeth yn fuan a lledaenu i eiddo neu goedwigaeth cyfagos.
“Felly os ydych chi o gwmpas y lle, gwnewch yn siŵr fod unrhyw ddeunyddiau ysmygu yn cael eu taflu a’u diffodd yn iawn a bod unrhyw danau gwersylla neu farbeciws yn cael eu rhoi i ffwrdd yn llwyr.
“Byddem hefyd yn gofyn i bobl gadw ymhell oddi wrth yr ardal sydd wedi’i heffeithio er mwyn caniatáu i ymladdwyr tân fonitro’r tân, ac ar gyfer eu diogelwch eu hunain.”
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch y tân hwn i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111.