Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn croesawu digwyddiad craffu Llantysilio
PostiwydFe aeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gyfarfod arbennig o bwyllgor craffu cymunedau Cyngor Sir Ddinbych yn Llangollen heddiw (Dydd Mercher 20fed Mawrth) a oedd yn ystyried y tân a ddigwyddodd ar fynydd Llantysilio yr haf diwethaf.
Meddai’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Richard Fairhead: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn yr adolygiad i’r tân ar fynydd Llantyslio yn haf 2018, ochr yn ochr â’r holl randdeiliaid eraill sydd yn cymryd rhan.
“Cawsom gyfle i egluro’n fanwl beth yr oedd y digwyddiad yn ei olygu o’n persbectif ni o ran yr adnoddau a anfonom at y tân, yr offer a ddefnyddiom, yr heriau a wynebom a’r modd y gwnaethom ni gyfathrebu ac, yn dilyn ôl-drafodaethau mewnol ac allanol, yr hyn a wnaethom ni ei ddysgu o’r digwyddiad, fel asiantaeth unigol ac yn nhermau dysgu amlasiantaethol.
“Does dim amheuaeth bod hwn wedi bod yn ddigwyddiad heriol iawn i ni oherwydd y tywydd poeth eithafol digyffelyb, y dirwedd anrhagweladwy, yr ardal ddaearyddol eang, natur benodol y tân ei hun, sicrhau cyflenwad dŵr, goblygiadau’r lefelau mwg sylweddol, y galw ar ein hadnoddau a’r angen i gyfathrebu’n eang gyda’r cyhoedd a’r wasg, yn ogystal â’n sefydliadau partner.
“O dan yr amgylchiadau heriol hyn rwyf yn credu’n gryf ein bod ni wedi ymateb yn broffesiynol i’r digwyddiad a bod ymrwymiad ein criwiau, yn ogystal â’u prif gyflogwyr yn achos ein diffoddwyr tân rhan amser, wedi mynd tu hwnt i’r hyn a fyddem ni’n ei ddisgwyl ganddyn nhw fel rheol, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hyn.
“Mae’n gadarnhaol nodi bod ôl-drafodaethau helaeth yn dilyn yr holl danau gwylltion yr haf diwethaf wedi arwain at nifer o argymhellion dysgu a fydd yn ychwanegu at ein gallu i ddelio gyda digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.
“O’n persbectif ni fel gwasanaeth tân ac achub heddiw rydym ni wedi egluro ein bod ni, yn dilyn yr ôl-drafodaethau mewnol ac allanol, wedi canolbwyntio ar chwe maes ffocws mewn perthynas â’r holl danau gwylltion y gwnaethom ni ddelio gyda hwy'r haf diwethaf - mae’r rhain yn cynnwys sicrhau cysondeb o ran meistroli a rheoli digwyddiadau, safoni systemau i gefnogi pennaeth y safle, adolygu faint o adnoddau sydd gennym ni, buddion cydweithio ac yn fwy na dim y goblygiadau ar ein staff, eu teuluoedd a’u prif gyflogwyr.
“Bydd y rhain oll yn ychwanegu at ein gallu i ddelio gyda digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.”