Tân mynydd Beddgelert
PostiwydMae criwiau dal yn bresennol yn monitro tân sy’n effeithio ar rhan o goedwig ar ochr y mynydd yng Nghraig y Llan, Beddgelert.
Galwyd diffoddwyr tân allan i’r achos i ddechrau am 19.54 o’r gloch neithiwr, nos Fawrth Ebrill 23, ac maen nhw wedi bod yn bresennol yno drwy gydol y nos yn brwydro’r tân. Mae un criw o Gaernarfon yn dal i fod yno.
Dywedodd Mike Plant o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae hwn yn dân mynydd gweledol iawn, ac wrth reswm mae trigolion lleol ac ymwelwyr â’r ardal yn bryderus.
“Hoffwn dawelu meddwl y rhai hynny sy’n bryderus ein bod yn parhau i fod ar y safle yn monitro ac yn delio gyda’r tân.
“Ni wyddom beth yw achos y tân ar hyn o bryd – fodd bynnag, yn ystod cyfnodau sychach, gall tannau sy’n cynnwys glaswellt, rhedyn a grug ddatblygu’n gyflym iawn, yn enwedig pan fydd gwyntoedd cryf, gan arwain at dannau yn mynd allan o reolaeth ac yn lledaenu i eiddo neu goedwisgoedd gerllaw, gyda’r angen i alw’r gwasanaeth tân ac achub allan i’w diffod.
“Rydym yn annog ymwelwyr â chefn gwlad i fod yn ofalus iawn pan fyddan nhw allan ac i leihau’r perygl o dân. Dylech wneud yn siwr bod unrhyw ddeunyddiau ysmygu yn cael eu taflu a’u diffodd yn briodol. Os ydych chi allan yn campio, gwnewch yn siwr bod gennych ganiatâd i oleuo tannau gwersylla a barbeciws a’u bod nhw cael eu diffodd yn llwyr wedi i chi eu defnyddio
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n diffoddwyr tân sydd yn gweithio mewn amodau heriol a’u cyflogwyr am eu rhyddhau o’r gwaith.
“Gofynnwn i bobl gadw’n ddigon pell o’r ardal sydd wedi’i heffeithio er mwyn galluogi diffodwyr tân i barhau i ddelio â’r achos, ac er mwyn eu diogelwch eu hunain.”