Rhybudd diogelwch canhwyllau yn dilyn tân yng Nghaergybi
PostiwydMae Swyddog Tân yn apelio ar drigolion y gymryd gofal gyda chanhwyllau a fflamau noeth yn dilyn tân yng Nghaergybi yn oriau mân y bore yma. (Dydd Gwener 5 Ebrill).
Galwyd dau griw o Gaergybi i eiddo ar ffordd Kingsland, Caergybi am 02.13am heddiw.
Credir mai achos y tân yn oedd canhwyllau wedi eu gadael heb oruchwyliaeth ar y baddon a arweiniodd at ddifrod tân a difrod mwg difrifol i'r ystafell ymolchi a difrod mwg ysgafn i’r landin.
Dywedodd Jody McEachern, Rheolwr Ardal: "Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu peryglon gadael canhwyllau heb oruchwyliaeth a pha mor hawdd y gall tanau ddigwydd.
"Roedd y meddianwyr yn hynod o ffodus i ddianc o’r tân hwn gan eu bod yn cysgu ar adeg y tân. Gall canhwyllau datblygu yn dân yn hawdd, a bob blwyddyn rydym yn gweld achosion di-ri lle mae fflam agored sydd wedi’i gadael heb oruchwyliaeth yn gadael dinistr enfawr.
"Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau bach a weithredir gan fatri. Mae modd eu prynu am gost fechan ac maen nhw’n rhedeg ar fatri yn lle bod angen fflam. Mae’r canhwyllau electronig hyn yr un mor effeithiol i greu awyrgylch ond yn llawer mwy diogel na channwyll.
Cynghorir trigolion sy’n defnyddio canhwyllau i ddilyn y cyngor diogelwch isod:
- Dylech sicrhau bod canhwyllau yn ddiogel mewn daliwr priodol, ar arwyneb sefydlog, ac oddi wrth ddeunyddiau a allai fynd ar dân - megis llenni
- Ni ddylid gadael plant ac anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain gyda chanhwyllau wedi’u cynnau byth
- Peidiwch byth â gadael canhwyllau wedi'u goleuo heb oruchwyliaeth. Rhowch y canhwyllau i ffwrdd pryd bynnag y byddwch chi’n gadael yr ystafell, a gwneud yn siŵr eu bod nhw wedi’u diffodd yn llwyr gyda’r nos
- Dylech sicrhau nad oes unrhyw docion cwyr, matsys na gweddillion yn y pwll cwyr
- Dylech losgi canhwyllau mewn ystafell wedi’i hawyru’n dda, ond dylech osgoi drafftiau, tyllau awyr neu lenni awyr - bydd hyn yn helpu i atal llosgi’n gyflym neu’n anwastad, hel parddu, a diferu gormodol
- Dylech dorri’r wic i ¼ modfedd bob tro cyn llosgi. Gall wiciau hir neu gam achosi llosgi anwastad, diferu neu ffagliadau
- Peidiwch â symud canhwyllau unwaith maen nhw wedi’u goleuo
- Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr ar amser llosgi a defnydd priodol
- Dylech bob amser rhoi canhwyllau ag arogl mewn daliwr sy'n gallu gwrthsefyll gwres, gan fod y canhwyllau hyn wedi'u cynllunio i droi’n hylif wrth gynhesu, er mwyn creu cymaint o arogl ag sy’n bosibl
- Dylech losgi canhwyllau ar fat sy'n gallu gwrthsefyll gwres bob amser
- Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd gan y gallai hyn achosi i’r fflam ymledu
- Defnyddiwch haearn canhwyllau neu lwy i ddiffodd canhwyllau Mae'n fwy diogel na'u diffodd drwy chwythu a allai achosi gwreichion.
Ychwanegodd Jody: "Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae'n hanfodol eich bod yn barod petai'r gwaethaf yn digwydd. Gall larwm mwg sy'n gweithio roi’r amser hollbwysig rydych chi ei angen i chi fynd allan, aros allan, a ffonio 999. Cadwch chi eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel drwy brofi eich larwm yn rheolaidd a thrwy gynllunio ac ymarfer llwybr dianc.”