Arestio llanc mewn cysylltiad â'r tân ym Mlaenau Ffestiniog
PostiwydMae'r Heddlu yn ne Gwynedd heddiw Dydd Mercher 24 Ebrill wedi arestio llanc 16 oed yng nghyswllt y tân ym Mlaenau Ffestiniog dros Wyl y Banc.
Mae'r llanc wedi ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol, achosi niwsans cyhoeddus ac ymosod ar Swyddog Heddlu ac mae'n cael ei holi ar hyn o bryd yng Ngorsaf yr Heddlu Caernarfon.
Arestiwyd dyn arall ar yr un pryd am rwystro swyddogion yr Heddlu. Meddai Arolygydd Matt Geddes: “Mae'r tân yn cael ei drin fel trosedd a roddodd nifer o bobl a busnesau mewn peryg gan achosi i bobl orfod gadael eu cartrefi."
“Rydym yn apelio am dystion i ddod ymlaen gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am y digwyddiad hwn er mwyn dod â'r rhai sy'n gyfrifol o flaen eu gwell, fel y gall digwyddiadau tebyg gael eu hatal yn y dyfodol."
Meddai Gavin Roberts, Uwch-reolwr Safonau Proffesiynol a Gwasanaethau, Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae tanau gwair bwriadol yn peryglu bywydau - defnyddiwyd adnoddau prin am gyfnod hir oherwydd y digwyddiad hwn gan roi ein diffoddwyr tân a thrigolion lleol mewn peryg."
“Os yw'r gwasanaethau tân yn gorfod treulio amser yn diffodd tanau bwriadol mae llai o amser ganddynt i ddelio ag argyfyngau eraill fel tanau mewn tai neu ddamweiniau traffig."
“Gall tanau gwair bwriadol wneud difrod difrifol i gefn gwlad a'r amgylchedd gan ddinistrio bywyd gwyllt ac anifeiliaid gan greu cost o filiynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn.
“Rydym yn gweithio yn agos gyda'n cydweithwyr yn yr Heddlu i ddal pwy bynnag sy'n cychwyn tanau yn fwriadol a byddwn yn cefnogi erlyniadau."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru neu ddefnyddio'r wefan https://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support . Fel arall ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.