Rhybuddio am beryglon gwefrwyr ffonau yn dilyn tân yn Llangefni
PostiwydMae Swyddogion Tân yn rhybuddion trigolion ynghylch peryglon tanau trydanol yn dilyn tân yn gysylltiedig â gwefrwr ffôn nos Wener ddiwethaf. Cafodd dau breswylydd driniaeth yn yr ysbyty am effeithiau anadlu mwg.
Galwyd diffoddwyr tân o Langefni, Porthaethwy a Bangor at dân mewn ystafell wely ym Mhencraig, Llangefni am 20.37 o’r gloch Nos Wener, Mai 3ydd. Achoswyd y tân gan wefrwr ffôn a oedd wedi gorboethi. Cafodd pedwar preswylydd driniaeth ragofalol yn y fan a’r lle a chludwyd dau breswylydd i’r ysbyty i dderbyn triniaeth am effeithiau anadlu mwg.
Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiadau yma’n tynnu sylw at berygl tanau trydanol – gallant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.
“Mae gwefrwyr ffôn yn mynd yn boeth iawn - peidiwch byth â’u gadael yn gwefru neu heb ben i gadw llygaid arnynt am gyfnod maith a gwnewch yn siŵr fod y plwg wedi diffodd hyd yn oed os nad ydi o wedi ei gysylltu i’ch ffôn neu eitem drydanol.
“Peidiwch byth â chyfnewid gwefrwyr neu ddefnyddio gwefrwyr ffug - dylech ddefnyddio’r gwefrwr a ddaeth gyda’r ffôn.
“Dilynwch gyfarwyddiadau a chanllawiau’r gwneuthurwyr bob amser wrth ddefnyddio eitemau trydanol, a diffoddwch nhw a thynnu’r plwg allan cyn i chi fynd i’r gwely.
“Rydym yn eich cynghori i fod mor barod â phosibl rhag ofn y bydd tân, a hynny drwy wneud yn siŵr fod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod gennych lwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu allu mynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosibl.
"Dyma rai camau syml i’w cymryd er mwyn ceisio atal tân trydanol yn eich cartref:
- PEIDIWCH â gorlwytho socedi
- GWIRIWCH a oes gwifrau wedi gwisgo neu dreulio
- TYNNWCH blwg yr eitemau allan os nad ydych yn eu defnyddio
- CADWCH yr eitemau’n lân ac mewn cyflwr da
- DADWEINDIWCH y ceblau ymestyn cyn eu defnyddio.
“Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampiau’ ar ein gwefan a’n tudalen facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – mae’n dweud wrthych os ydych yn gorlwytho eich socedi ac mae’n eich helpu i aros yn ddiogel."