Gwrthdrawiad Traffig ar y Ffordd ger Nefyn
PostiwydMae criwiau o Bwllheli, Caernarfon, Abersoch a Chaergybi a’r Uned Amddiffyn yr Amgylchedd o Gaergybi wrthi’n delio gyda gwrthdrawiad traffig ar y ffordd rhwng Cerbyd Nwyddau Trwm (HGV) a Cherbyd 4x4 ar y ffordd rhwng Nefyn a Sarn.
Does neb wedi ei anafu.
Mae’r Diffoddwyr Tân yn gweithio gydag asiantaethau partner i ddelio gyda gollyngiad tanwydd bychan o’r cerbydau a wnaeth wrthdaro.