Gweithio mewn partneriaeth yn ystod llifogydd ym Mhensarn
PostiwydMae criwiau tân wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda staff o Ddwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru heddiw, wrth ddelio gyda llifogydd ym Mhensarn, Abergele.
Derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr alwad am 10.44pm neithiwr (Nos Iau 14eg Mehefin) yn dilyn adroddiadau o lifogydd yn Lon y Cyll, Pensarn, Abergele. Anfonwyd injan a Phwmp Cyfaint Uchel o Landudno at y digwyddiad ac mae staff o'r ddau sefydliad wedi bod yn gweithio drwy gydol y nos. Mae criwiau tân a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi Dwr Cymru a gyda'i gilydd maent wedi atal dwr carthion rhag mynd i mewn i dai ar yr stad. Cyflawnwyd hyn trwy gydweithio rhagorol rhwng y sefydliadau.
Bydd criwiau yn aros ar y safle drwy gydol y dydd.