Y Gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid i ddelio gydag achosion o lifogydd
PostiwydGalwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i nifer o lifogydd neithiwr a’r bore yma ac maent wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i gynorthwyo trigolion ac eiddo sydd wedi eu heffeithio gan y tywydd garw.
Yr ardaloedd sydd wedi dioddef y llifogydd gwaethaf ydi Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae criwiau wedi bod yn bresennol dros nos yn pwmpio dŵr ger parc carafanau yn Llangollen a oedd mewn perygl o lifogydd ar ôl cael eu galw yno am 18.31 o’r gloch neithiwr (Dydd Mawrth 11eg Mehefin).
Mae diffoddwyr tân yn dal i ddelio gyda llifogydd sy’n effeithio ar eiddo yn Ffordd Bagillt, Maes Glas - galwyd criwiau yno am 06.48 o’r gloch y bore yma (Dydd Mercher 12fed) ac roedd yn rhaid gwagio saith eiddo.
Mae nifer o rybuddion llifogydd mewn grym – cadwch lygaid ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
www.naturalresources.wales am gyngor ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ar wedi llifogydd, neu dilynwch @NatResWales i dderbyn yr wybodaeth a rhybuddion diweddaraf.
Cynghorir y cyhoedd i gadw draw o gyrsiau dwr sy’n llifo’n gyflym ac i beidio â gyrru trwy lifogydd.