Rhybudd ynghylch tanau sbwriel yn dilyn tân yn Nhrefor
PostiwydMae swyddog tân yn amlygu pwysigrwydd ystyried diogelwch yn gyntaf wrth losgi gwastraff yn dilyn tân bychan yn Nhrefor, Wrecsam a ledaenodd i laswellt a theiars gerllaw.
Anfonwyd criwiau o Langollen a Wrecsam at y digwyddiad am 08.37 o’r gloch y bore yma (Dydd Llun 3ydd Mehefin) i ddelio gyda choelcerth fechan a oedd wedi lledaenu i ddail a thua 150 o deiars a oedd yn cael eu cadw ar y safle.
Meddai Lee Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Gyda’r haf yn nesáu, mae’n bosib y bydd nifer o drigolion yn ystyried llosgi gwastraff gardd.
“Fodd bynnag, mae’n hawdd colli rheolaeth ar dân ac felly gofynnwn i bawb gadw diogelwch mewn cof.
“Pan fydd y tywydd yn sych mae’n hawdd iawn i danau ledaenu a mynd allan o realaeth gan beryglu cartrefi a bywydau ein diffoddwyr tân a thrigolion. Felly meddyliwch am ddiogelwch cyn llosgi gwastraff gardd yr haf hwn!”
Os ydych chi’n bwriadu llosgi dan reolaeth, yna dilynwch y cyngor isod:
- Ffoniwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01931 522 006 i roi gwybod i ni eich bod chi’n bwriadu cynnau tân - bydd hyn yn ein helpu i osgoi anfon criwiau allan yn ddiangen.
- Gosodwch eich coelcerth ymhell o adeiladau, ffensys, coed a strwythurau gardd.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych chi bibell ddŵr gerllaw rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân
- Peidiwch â chynnau tân ar ddiwrnod gwyntog, fe all losgi’n fwy ffyrnig nag yr oeddech chi wedi ei ddisgwyl.
- Meddyliwch am eich cymdogion – os ydych chi’n bwriadu cynnau coelcerth sylweddol, rhowch wybod iddynt, ac arhoswch wrth y goelcerth i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel.
- Peidiwch byth â defnyddio hylifau fflamadwy fel petrol a pharaffin i danio’ch coelcerth.
Cyngor i ffermwyr/tirfeddianwyr:
Mae’r Cod Llosgi Grug a Glaswellt yn nodi mai dim ond rhwng y 1af o Hydref a’r 31ain o Fawrth y caniateir llosgi ar dir uchel a rhwng y 1af o Dachwedd a’r 15fed o Fawrth ym mhobman arall: