Byddwch yn ddiogel, byddwch yn barod yng Ngogledd Cymru
PostiwydByddwch yn ddiogel, byddwch yn barod yw'r neges y tu ôl i ymgyrch fawr yn y cyfryngau cymdeithasol sy' n cael ei lansio ym mis Medi ac a gefnogir gan holl gynghorau gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru, y gwasanaethau brys a rhai cwmnïau cyfleustodau.
Mae'r ymgyrch #30days30waysUK wedi bod ar waith mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill ledled y byd dros y blynyddoedd diwethaf ac eleni mae'n cael ei chefnogi gan Fforwm Lleol Cymru GydnerthGogledd Cymru, corff sy'n cynnwys yr holl sefydliadau sy'n ymwneud ag ymdrin ag argyfyngau) yn rhoi benthyg ei gefnogaeth. Mae gan y Fforwm ddyletswydd i rybuddio a rhoi gwybod i'r cyhoedd sut i gadw n ddiogel yn ystod argyfyngau.
Bydd un neges yn cael ei chyhoeddi bob dydd yn ystod mis Medi ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys sut i ddelio â llifogydd, aros yn ddiogel yn y cartref, ymwybyddiaeth o seiber-fwlio, diogelwch tân, cynghorion ar yrru mewn tywydd gaeafol a ble i ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am waith ffordd a rhybuddion traffig.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Mainon, aelod arweiniol y Cabinet dros wasanaethau corfforaethol a chyfeiriad strategol: "Mae sefydliadau ar draws Gogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn i helpu preswylwyr i baratoi ar gyfer argyfyngau megis llifogydd, tywydd gaeafol a stormydd, ond hefyd ar materion fel diogelu eich cartref a ' ch diogelwch personol.
"Mae'r Cyngor yn falch o gefnogi ymgyrch fel hon, gan ei fod yn gyfle gwych i anfon y negeseuon hynny adref eto ac rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr yn eu cael yn ddefnyddiol ac yn cymryd camau i ' w gwneud eu hunain yn fwy diogel ac yn fwy parod i ddelio â sefyllfaoedd brys".
Gall preswylwyr ddod o hyd i'r negeseuon ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr holl bartneriaid sy'n rhan o'r ymgyrch yng Ngogledd Cymru a thrwy ddefnyddio ' r hashnodau lleol #cydnerthgogleddcymru neu #northwalesresilience.