Y Diweddaraf am y tân ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
PostiwydMae ardal gynhyrchu un-llawr ar dân yn llwyr erbyn hyn, ac mae’r tân wedi lledaenu i floc swyddfeydd drws nesaf.
Mae wyth o beiriannau tân yn dal yno, ynghyd â dau beiriant ALP sy’n chwistrellu dŵr i lawr ar y tân.
Mae llawer iawn o fwg wedi cael ei ryddhau dros yr ardal – dyma ofyn i bobl yn yr ardal gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau ac i osgoi’r ardal o gwmpas y tân er mwyn i’n criw allu gweithio’n effeithlon.