Digwyddiad yng Nghaergybi
PostiwydMae diffoddwyr tân wedi bod yn delio â digwyddiad yng Nghaergybi.
Cafodd pedwar criw tân - sef dau o Gaergybi, un o Amlwch ac un o Fangor - eu hanfon at waith diwydiannol ar Ffordd Llundain, Caergybi am 18.03 o’r gloch heno (10 Awst) ar ôl cael gwybod bod clec fawr wedi digwydd.
Gwnaethpwyd yn siŵr fod pawb yn ddiogel, wrth i’r criwiau tân ddelio â thân a oedd wedi cael ei gyfyngu i hopran (math o gynhwysydd).
Nid oedd neb wedi’i anafu fel bod angen eu trin yn y fan a’r lle, ond ers hynny mae dau ddyn wedi dewis mynd i’r ysbyty oherwydd mân anafiadau.
Disgwylir i’r tân fudlosgi am gryn amser, ac mae’n cael ei oruchwylio gan beiriannydd ar y safle. Bydd y criwiau’n dychwelyd yn rheolaidd i ailarchwilio’r safle.
Nid oes dim perygl i’r cyhoedd.