Dyn yn marw mewn tân mewn eiddo yn Holt, Wrecsam
PostiwydBu farw dyn oedrannus yn dilyn tân mewn tŷ yn Holt.
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn adroddiadau bod tân yn yr eiddo yn Castle Mews, Holt, Wrecsam am 21.07 o’r gloch heno (Nos Fawrth 12fed Tachwedd).
Anfonwyd dwy injan dân i’r digwyddiad. Defnyddiodd y criwiau ddwy set o offer anadlu ac un pibell dro i ddiffodd y tân.
Daeth y diffoddwyr tân o hyd i gorff dyn, y credir ei fod yn ei 80au, y tu mewn i’r eiddo.
Llwyddodd dynes oedrannus i ddod allan o'r eiddo ar ôl cael ei rhybuddio gan larwm mwg. Cafodd driniaeth am effeithiau anadlu mwg yn y fan a'r lle.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i achos y tân.