Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dathlu achrediad Rhuban Gwyn ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn
Postiwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi derbyn achrediad Rhuban Gwyn i gydnabod y camau y mae’n ei gymryd i helpu i roi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywod.
Mae hi’n Ddiwrnod cenedlaethol Rhuban Gwyn heddiw (Tachwedd 25ain) – sefydlwyd Diwrnod Rhuban Gwyn y Deyrnas Unedig yn 2005, ac mae’n rhan o symudiad byd eang i roi diwedd ar drais gan ddynion yn erbyn menywod. Mae’r pwyslais ar hyrwyddo sgyrsiau rhwng dynion a bechgyn i herio diwylliannau gwrywaidd sydd yn arwain at aflonyddu, camdriniaeth a thrais.
Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Rydym ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi derbyn achrediad Rhuban Gwyn swyddogol.
“Rydym ni’n sicrhau bod y neges nad ydi trais gan ddynion yn erbyn menywod yn dderbyniol o gwbl yn cael ei amlygu yn ein gorsafoedd tân ac mewn gweithleoedd ledled Gogledd Cymru, ac fel Gwasanaeth rydym ni’n cymryd camau positif i helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod trwy godi ymwybyddiaeth a grymuso cydweithwyr i beidio â chadw’n dawel.
“Rydym ni wedi cefnogi digwyddiadau Rhuban Gwyn ers nifer o flynyddoedd, ac rydym ni wrthi’n hyfforddi staff yn unol â’r Fframwaith Hyfforddi Genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
“Rydw i a nifer o fy nghydweithwyr wedi cwblhau’r hyfforddiant i lysgenhadon neu hyrwyddwyr, gan addo i beidio byth â chyflawni, esgusodi na chadw’n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod.
“Mae gennym ni gynllun ar waith a byddwn yn ymgorffori negeseuon yr ymgyrch ledled y Gwasanaeth, yn ogystal ag annog staff i fod yn llysgenhadon neu hyrwyddwyr.
“Byddwn hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o gynnig yr hyfforddiant ymwybyddiaeth i’n cadetiaid tân drwy’r rhaglen eiriolaeth ieuenctid Rhuban Gwyn yn dilyn ei gyhoeddiad yn ddiweddar, i gyd-fynd â’r thema o greu dyfodol heb drais gan ddynion yn erbyn menywod.
“Mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn frawychus o gyffredin, a dim ond trwy hyrwyddo’r neges o barch, ac arwain trwy esiampl y gallwn ni helpu i newid cymdeithas.”
Meddai Anthea Sully, Prif Weithredwr White Ribbon UK: “Rydym ni’n falch iawn bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi derbyn achrediad Rhuban Gwyn. Fe all sefydliad sydd yn cyflawni ei gynllun gweithredu gyrraedd nifer fawr o bobl a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Yn gynharach eleni ymwelodd Jack Sargeant, Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy ac eiriolwr yr ymgyrch Rhuban Gwyn, â Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy i gael gwybod mwy am ymrwymiad y Gwasanaeth i’r ymgyrch genedlaethol.
Fe chwaraeodd tad Mr Sargeant, y diweddar Carl Sargeant, cyn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru, ran ganolog yn natblygiad cynnar y deddfwriaeth yng Nghymru i atal trais yn erbyn menywod (sydd bellach yn cael ei galw’n Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rywiol (Cymru) 2015).
Meddai Mr Sargeant: “Mae’n wych gweld bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd yr awenau wrth daclo Trais Domestig. Mae derbyn achrediad Rhuban Gwyn yn dipyn o gamp, ac fe ddylai’r Gwasanaeth cyfan fod yn falch iawn.
“Mae’r Ymgyrch Rhuban Gwyn ar flaen y gad o ran trechu trais domestig o bob math. Rwyf yn annog sefydliadau eraill i ennill yr achrediad, ac yn annog y cyhoedd i ymuno ac addo i beidio byth â chyflawni, esgusodi na chadw’n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod.”