Rhybudd diogelwch canhwyllau yn dilyn tân difrifol yn Nhrefor
PostiwydMae Swyddog Tân yn rhybuddio am beryglon gadael canhwyllau yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt a phwysigrwydd larymau mwg yn dilyn tân difrifol yn Nhrefor, Gwynedd neithiwr lle bu farw cath.
Cafodd y preswylydd ei rhybuddio am y tân yn ei chartref yn Lime Street, Trefor wedi i larymau mwg ei deffro a chafodd criwiau o Bwllheli a Nefyn eu galw i’r eiddo am 18.45 o’r gloch neithiwr (nos Lun Rhagfyr 2il).
Achoswyd difrod tân 100% i’r llawr gwaelod a difrod mwg i weddill yr eiddo.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan gannwyll oedd wedi cael ei gadael yn llosgi ar silff ffenestr ac a roddodd fleind pren ar dân.
Meddai Jeff Hall, Pennaeth Safonau Proffesiynol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Mae’r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd larymau mwg, a ddeffrodd y preswylydd a’i rhybuddio am y tân.
“Ceisiodd y preswylydd ddiffodd y tân ei hun, ac roedd yn ffodus iawn ei bod hi wedi llwyddo i ddianc yn ddianaf. Derbyniodd driniaeth ocsigen gan griwiau yn y fan a’r lle a chafodd archwiliad rhagofalol gan barafeddygon. Ein cyngor ar ôl darganfod tân ydi ewch allan, arhoswch allan a galwch 999 – peidiwch â cheisio taclo’r tân eich hun.
“Rwyf yn erfyn ar drigolion i fod yn hynod ofalus gyda chanhwyllau a fflamau agored. Mae’r rhybudd hwn yn berthnasol iawn adeg y Nadolig pan fydd pobl yn ystyried defnyddio canhwyllau i addurno’r cartref.
“Fe all canhwyllau achosi tân a phob blwyddyn rydym ni’n cael ein galw at bob math o ddigwyddiadau lle mae fflamau agored wedi achosi difrod difrifol.
“Rydym ni’n cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau batri, sydd ar gael i’w prynu’n rhad iawn yn hytrach na chanhwyllau go iawn. Mae canhwyllau batri yn gallu creu’r un naws â chanhwyllau go iawn ond maent yn llawer iawn mwy diogel.”
Cynghorir pobl sy’n defnyddio canhwyllau i ddilyn y cyngor diogelwch isod:
- Sicrhewch fod canhwyllau yn cael eu rhoi mewn cynhwysydd priodol, ar arwyneb gwastad ac ymhell o bethau a allai fynd ar dân - megis llenni
- Ni ddylid gadael plant nac anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu tanio
- Peidiwch byth â gadael cannwyll wedi ei thanio heb neb i gadw llygaid arni. Diffoddwch nhw cyn gadael ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod allan yn iawn cyn mynd i’r gwely
- Cadwch y pwll gwêr yn rhydd rhag darnau o wic cannwyll, matsis a thameidiau bob amser
- Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell sydd wedi ei hawyru’n dda, ond dylid osgoi ddrafftiau neu gerrynt awyr – bydd hyn yn achosi i’r gannwyll losgi yn anwastad, achosi huddygl a diferu gormodol
- Dylid torri’r wic i ¼ modfedd bob amser cyn tanio’r gannwyll. Gall wiciau hir losgi’n anwastad, gan ddiferu neu fflachio
- Peidiwch â symud canhwyllau unwaith y maent wedi eu tanio
- Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr o ran amser llosgi a defnydd priodol
- Rhowch ganhwyllau gydag arogl mewn cynhwysydd sy’n dal gwres bob amser gan fod y canhwyllau hyn wedi eu dylunio i droi’n hylif wrth losgi, i wneud y mwyaf o’r arogl
- Llosgwch ganhwyllau ar fat a all wrthsefyll gwres bob amser
- Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd gan y gall achosi i’r fflam fflachio
- Defnyddiwch declyn pwrpasol neu lwy i ddiffodd canhwyllau. Mae’n fwy diogel na chwythu sy’n medru achosi gwreichion.
Ychwanegodd Tony: “Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd. Gall larwm mwg sy’n gweithio roi cyfle i chi i fynd allan, aros allan a ffonio 999. Sicrhewch eich bod chi a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy brofi eich larwm yn rheolaidd a chynllunio ac ymarfer eich llwybr dianc.”