Tân mewn tŷ ym Magillt
PostiwydMae Swyddog Tân yn rhybuddio am beryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno yn dilyn tân ym Magillt neithiwr.
Anfonwyd criwiau tân o Dreffynnon a’r Fflint at dân mewn cegin ym Mron y Wern, Bagillt am 10.42 o’r gloch neithiwr (Nos Wener 27ain Rhagfyr).
Roedd y tân wedi ei achosi gan fwyd a oedd wedi cael ei adael yn coginio ac o ganlyniad achoswyd difrod mwg 50% i’r eiddo a difrod tân 20% i’r gegin. Daethpwyd â’r tân dan reolaeth erbyn hanner nos.
Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Dro ar ôl tro rydym ni’n cael ein galw at danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin – mae mor hawdd anghofio am fwyd sy’n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu os ydych wedi bod yn yfed, ac fe all y canlyniadau fod yn ddifrifol.
“Mae ein neges yn glir - peidiwch byth â throi eich cefn ar fwyd sydd yn coginio, hyd yn oed am funud. Fe all gadael bwyd yn coginio, yn enwedig mewn sosban sglodion, hyd yn oed am gyfnod byr arwain at drychineb.
“Dros gyfnod y Nadolig mae’n cartrefi’n lawn papur, bocsys ac eitemau eraill ac rydym ni’n annog pobl i gadw llwybrau dianc yn glir rhag argyfwng.
“Mae larymau mwg yn achub bywydau. Maent yn rhoi rhybudd cynnar o dân er mwyn eich helpu i ddianc yn ddianaf. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gofalu am eich larwm mwg a’i brofi unwaith yr wythnos.”