Tân yn Kronospan - Diweddariad pellach gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
PostiwydRydym ni’n gweithio ar sail aml asiantaeth gyda’r heddlu, gwasanaeth tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r tân yn Kronospan.
Mae’r tân dan reolaeth, fodd bynnag oherwydd natur y tân bydd yn mudlosgi am beth amser.
Rydym ni’n ymwybodol bod trigolion yn poeni am effaith y mwg ond hoffem dawelu eu meddyliau, er ei fod yn amhleserus, bod y mwg yn dod o bren crai sydd ar dân ac nid y ffatri ei hun.
Byddwn yn dal i fonitro ansawdd yr aer oherwydd bod y tân wedi bod yn llosgi am gyfnod hir. Mae Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd wedi bod yn y Waun yn monitro’r mwg ers iddynt gael eu hysbysu am y tân. Mae ein staff Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi cysylltu gydag ysgolion ac mae’r cyngor diogelwch priodol wedi cael ei rannu gyda hwy. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda phartneriaid sydd yn gysylltiedig â’r digwyddiad a sefydliadau cymunedol.
Yn y cyfamser mae’r cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yr un fath:
“Os ydych chi mewn lle sydd yn cael ei effeithio gan y mwg, arhoswch y tu mewn a chadwch ddrysau a ffenestri ynghau pan fydd y mwg yn pasio ond ar ôl hynny agorwch hwy i awyru’ch cartref. Os oes raid i chi fynd allan, osgowch ardaloedd lle mae mwg a lludw, a pheidiwch ag aros yn yr ardaloedd hyn am gyfnod hir. Fe ddylai modurwyr sydd yn teithio drwy’r mwg gadw eu ffenestri ar gau a diffodd system awyru a fentiau’r car.
Fe all mwg effeithio ar lwybrau anadlu, y croen a’r llygaid ac achosi peswch a gwich, diffyg anadl a phoen yn y frest. Fe all hyn hefyd ddwysau problemau megis asthma; ac fe ddylai pobl gydag asthma gario eu hanadlydd gyda hwy bob amser.
Fe all arogleuon yn gysylltiedig â thân fod yn boen ac achosi straen a phryder, cyfog, cur pen a phendro. Dyma ymateb cyffredin i arogleuon ac nid y sylwedd sydd yn achosi’r arogl. Rydym ni’n gallu arogli arogleuon ar lefelau llawer iawn is na all achosi niwed i’n hiechyd.
Os ydych chi’n poeni am eich symptomau ewch i weld eich Meddyg Teulu neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Fel arfer mae’r symptomau’n diflannu’n gyflym ac nid ddylent arwain at broblemau iechyd tymor hir.”