Tân Kronospan - diweddariad gan Kronospan 15.01.2020
PostiwydMae Diffoddwyr Tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i fod ar safle Kronospan yn y Waun yn delio gyda’r tân. Mae criwiau GTAGC yn gweithio gyda staff ar y safle a byddant yno am weddill y diwrnod. Mae Kronospan yn ffyddiog y bydd y mwg yn diflannu yn ystod y dyddiad nesaf.
Er bod y tân wedi bod yn weladwy ar adegau, mae wedi bod dan reolaeth o’r cychwyn, ac mae’r Gwasanaeth Tân a’n personél ni ein hunain yn ei reoli’n llawn i leihau lleihau ei ddwyster a’i faint, ond mae hyn yn broses sydd yn cymryd amser.
Hoffai Kronospan ddiolch i bersonél GTAGC am eu hymdrechion i daclo’r tân.
Rydym ni’n cydnabod y pryderon a fynegwyd gan drigolion, ond hoffem dawelu meddyliau trigolion y Waun mai pren crai sydd yn llosgi yn yr iard bren ac er bod y mwg yn broblematig a’n bod ni’n cynghori pobl i gadw drysau a ffenestri ar gau dydi’r defnydd sydd ar dân ddim yn peri risg i iechyd.