Tŷ ar dân yn Nefyn
PostiwydCafodd dau o bobl eu hachub o dân mewn eiddo yn Nefyn neithiwr.
Aeth diffoddwyr tân o Bwllheli a Nefyn at dân mewn eiddo ym Mhentreuchaf, Gwynedd am 1.51 o’r gloch y bore (Sadwrn 15 Chwefror).
Fe wnaeth y criwiau ddefnyddio pibell ddŵr a phedwar set o offer anadlu yn y digwyddiad, a dod â dyn â dynes allan o’r eiddo. Cafodd y ddau eu trin yn y fan a’r lle gan staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Gadael bwyd yn coginio heb gadw llygad arno achosodd y tân.
Dywedodd Elian Roberts o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y cwpwl yn ffodus iawn neithiwr. Fe wnaeth y larymau mwg ganu yn y tŷ ond wnaethon nhw ddim eu clywed.
“Yn ffodus, fe wnaeth cymydog glywed y larwm, mynd at yr eiddo, gweld y mwg, a ffonio’r gwasanaeth tân ac achub. Gallai hwn fod wedi bod yn ddigwyddiad gwahanol iawn petai hi heb glywed y larwm yn canu.”
Dyma ambell air i gall gan Eilian am ddiogelwch yn y gegin:
- Os ydych chi’n gadael yr ystafell, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
- Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio popty nwy. Mae dyfeisiau tanio yn llawer mwy diogel
- Gwnewch yn siŵr bob amser fod coesau sosbenni yn wynebu oddi wrth ymyl y popty
- Cadwch y popty, y pentan a’r gril yn lân – gall saim a braster gronni a mynd ar dân yn hawdd
- Peidiwch byth â hongian dim byd i sychu uwchben y popty
- Cymerwch ofal os ydych chi’n gwisgo dillad llac oherwydd gall fynd ar dân yn hawdd
- Ar ôl i chi orffen coginio, gwnewch yn siŵr fod popeth wedi cael ei ddiffodd
-Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn ei ddefnyddio
- Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion - defnyddwch ffriwr saim dwfn â thermostat arno neu ffriwr aer, neu defnyddiwch sglodion ar gyfer y popty
- Gosodwch larymau mwg - maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim a gallent achub eich bywydau
- Peidiwch byth â rhedeg yn ôl i’r eiddo - ar ôl cyrraedd allan, arhoswch allan! Petaech chi’n anadlu mwg, gallai hynny effeithio’n ddifrifol ar eich siawns o allu dod allan o’r eiddo yr ail dro.
- Gofyn am helynt yw coginio ar ôl yfed. Mae nifer fawr o danau’n cael eu hachosi bob blwyddyn gan bobl sy’n dod adref o’r dafarn ac yn penderfynu coginio tamaid i’w fwyta cyn mynd i’r gwely. Byddwch yn saff, a pharatowch rywbeth cyn mynd allan neu ewch i nôl bwyd parod ar y ffordd adref.