Atgoffa trigolion i ‘Fynd Allan, Aros Allan a’n Galw Ni Allan!’ yn dilyn tân yn y Felinheli
PostiwydMae Swyddog Tân yn rhybuddio am bwysigrwydd mynd allan o eiddo yn syth ar ôl darganfod tân a pheidio â cheisio ei ddiffodd eich hun wedi i ddynes gael ei hachub o dân yn ei chartref yn y Felinheli heddiw.
Anfonwyd criw o Gaernarfon, Bangor a Phorthaethwy i’r eiddo ym Mryn Ffynnon, y Felinheli am 10.42 o’r gloch heddiw.
Roedd y larymau mwg yn yr eiddo wedi seinio rhybudd o’r tân a oedd yn llosgi mewn ystafell wely ar y llawr cyntaf ac fe geisiodd y preswylydd ddiffodd y tân ei hun.
Roedd yr eiddo yn llawn mwg ac fe ddefnyddiodd y ddiffoddwyr tân offer anadlu i achub y ddynes. Cafodd ei chludo i’r ysbyty am driniaeth ragofalol.
Cafodd y tân ei achosi yn ôl pob tebyg gan wres o lamp a oedd wedi syrthio ar ddillad gwely, ac fe achosodd ddifrod tân sylweddol i’r gwely a difrod mwg i’r ystafell wely a gweddill yr eiddo.
Meddai Jane Honey: “Y cyngor gorau posib y gallaf i ei roi i drigolion ar ôl darganfod tân yn y cartref ydi ewch alla, arhoswch allan a galwch ni allan – roedd y ddynes yma’n lwcus iawn ei bod wedi dianc heb anaf difrifol.
“Credir bod y tân wedi ei achosi gan wres o lamp a oedd wedi syrthio ar ddillad gwely. Mae lampau, yn enwedig lampau sydd yn defnyddio bylbiau halogen yn taflu digon o wres i roi gwrthrychau hylosg ar dân. Fel rheol rydym yn eich cynghori i ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gwneud yn siŵr bod lamplenni wedi eu gwneud o ddefnydd gwrthdan a pheidio â gorchuddio lampau gyda dim byd megis dillad neu flancedi a gwneud yn siŵr eu bod yn ddigon pell oddi wrth wrthrychau hylosg. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio bylbiau gyda’r watedd cywir ar gyfer y lamp neu lamplen; os ydi watedd y bwlb yn rhy uchel yn fe all achosi tân.”
“Ein cyngor ydi byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy wneud yn siŵr bod gennych chi larymau mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref i roi rhybudd cynnar o dân a llwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu allu mynd allan mor gyflym â phosibl.”