Apêl i helpu i leihau’r galw yn dilyn tân yn yr awyr agored yng Nghwm Y Glo
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu ei apêl i osgoi llosgi dan reolaeth neu losgi sbwriel yn dilyn tân yng Nghwm Y Glo, Gwynedd y prynhawn yma, wedi i dân bychan ledaenu i bedwar car.
Anfonwyd dau griw o Gaernarfon, criw o Fangor a chriw o Lanberis at y digwyddiad am 13.00 o’r gloch y prynhawn yma.
Meddai Mike Owen, Pennaeth Ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym ni’n gofyn i ffermwyr a pherchnogion tir osgoi llosgi dan reolaeth ac rydym ni’n gofyn i drigolion osgoi llosgi gwastraff er mwyn helpu i leihau’r galw ar ein diffoddwyr tân a helpu i’w cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Fe all tân bychan ledaenu’n hawdd iawn - ar yr achlysur hwn mae’n ymddangos fel petai unigolyn wedi bod yn llosgi sbwriel mewn cynhwysydd ar dir diffaith. Fe ledaenodd y tân ar bedwar car cyfagos.
“Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol diangen ar wasanaethau yng Ngogledd Cymru. Gadewch inni gydweithio i drechu coronafeirws.”