Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ ym Mangor

Postiwyd

Mae swyddog tân yn amlygu pwysigrwydd cymryd pwyll yn y gegin yn dilyn tân mewn tŷ ym Mangor brynhawn ddoe.

Galwyd diffoddwyr tân o Fangor a Chaernarfon i eiddo yn St James’ Drive, Bangor am 15.24 o’r gloch ddoe, Dydd Mercher 11eg Mawrth.

Ar ôl cyrraedd gwelsant bod tân sylweddol yn y gegin, ac fe ddefnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu, dwy bibell dro a chamerâu delweddu thermol i daclo’r tân. Achoswyd difrod tân 50% yn y gegin.

Cafodd mam a mab driniaeth gan barafeddygon yn y fan a’r lle, a chludwyd y plentyn i’r ysbyty am driniaeth ragofalol wedi iddo anadlu mwg.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan fwyd a oedd wedi cael ei adael yn coginio.

 Meddai Rod Poole o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Dro ar ôl tro rydym ni’n cael ein  galw at danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin – mae mor hawdd anghofio am fwyd sy’n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu os ydych wedi bod yn yfed, ac fe all y canlyniadau fod yn drychinebus. 

Dyma air i gall gan Rod ar sut i gadw’n ddiogel yn y gegin:


  • Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr nad ydy coesau’ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty
  • Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân – gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch â hongian dim byd uwch ben eich popty
  • Cymrwch ofal os ydych chi’n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion – defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres
  • Gosodwch larymau mwg yn eich cartref – maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.
  • Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i’r eiddo, ar ôl mynd allan arhoswch allan! Fe all anadlu mwg eich atal rhag dod allan yr ail dro.
  • Dydi coginio ar ôl bod yn yfed ddim yn gyfuniad doeth. Pob blwyddyn mae tanau di-rif yn cael eu hachosi oherwydd bod pobl yn penderfynu coginio pryd ar ôl dod adref o’r dafarn.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen