Darpar ddiffoddwragedd tân yn ymweld â Chanolfan Adnoddau’r Gwasanaethau Ambiwlans a Thân yn Wrecsam fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched
PostiwydY bore yma fe ymwelodd genethod o ysgolion uwchradd lleol ledled Wrecsam â Chanolfan Adnoddau’r Gwasanaeth Ambiwlans a Thân yn Wrecsam mewn ymgais i’w hannog i ystyried gyrfa gyda’r gwasanaethau brys.
Fel rhan o’r digwyddiad cymrodd disgyblion blwyddyn 8 a 9 ran mewn gweithgareddau a oedd wedi cael eu trefnu gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, a oedd wedi eu dylunio i roi blas iddynt ar weithio i’r gwasanaethau golau glas.
Cafodd y genethod eu gwahodd fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched - cadwch lygaid am fideo o’r digwyddiad a fydd yn cael ei ryddhau ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul (Diwrnod Rhyngwladol y Merched 8fed Mawrth).
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Hyfforddi a Datblygu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym wrth ein bodd o gael cynnal y digwyddiad hwn i roi cyfle i’r merched ifanc yma gael blas ar waith y gwasanaethau brys.
“Rhannwyd y disgyblion yn grwpiau a chawsant gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau ffitrwydd, profi’r offer a dysgu mwy am yrfa gyda’r gwasanaethau brys.
“Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2020 ydi #EachforEqual – mae byd cydradd yn fyd medrus.
“Yn unigol, rydym yn gyfrifol am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain – trwy’r dydd, bob dydd. Gallwn ddewis bod yn rhagweithiol wrth herio stereoteipiau, brwydro yn erbyn rhagfarn, ehangu canfyddiadau, gwella sefyllfaoedd a dathlu llwyddiannau merched.
“Rydym am i ferched ifanc sylweddoli y gallant gyflawni unrhyw beth – nid oes y fath beth â diffoddwr tân arferol. Ar y funud mae’r nifer o ddiffoddwragedd tân sydd gennym ni yn is o lawer na’r hyn yr hoffem ar gyfer gwasanaeth tân ac achub modern.
“Ond mae’n diffoddwragedd tân yn cynyddu mewn nifer, gyda diolch i fentrau eraill yr ydym ni’n eu cynnal drwy gydol y flwyddyn i helpu i leihau nifer y merched sydd yn dad-ddethol eu hunain yn seiliedig ar gamsyniadau, hen stereoteipiau neu fythau.
“Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w gyflawni o hyd - rydym ni eisiau gweithlu sydd yn adlewyrchu ein cymuned amrywiol, a fydd yn helpu i sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth tân ac achub o’r radd flaenaf i bobl yng Ngogledd Cymru.
“Rydym yn mawr obeithio bod y digwyddiad wedi ysbrydoli’r merched ifanc yma i ddilyn yr yrfa y maen nhw’n dyheu amdani.”
Meddai Wayne Davies, Rheolwr Argaeledd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddigwyddiad positif iawn ac un yr ydym ni’n ei annog fel cyflogwr cyfle cyfartal rhagweithiol.
“Roedd yn fraint cael croesawu’r merched ifanc yma i’r digwyddiad heddiw i drafod y gyrfaoedd sydd ar gael yn y Gwasanaeth Ambiwlans.
“Yr wyf yn gobeithio bod yr ymweliad wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o achubwyr bywydau a’u bod gam yn nes at yrfa gwerth chweil gyda’r gwasanaethau brys.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett: "Rydym yn llwyr gefnogi'r fenter werth chweil hon i annog menywod ifanc i feddwl am yrfa yn y gwasanaethau brys.
"Yma yn Heddlu Gogledd Cymru, mae gennym lawer o fenywod yn cyflawni ystod eang o rolau, o gwnstabliaid i'r rhengoedd uwch, yn ogystal â staff cymorth sifil. Rydym yn awyddus i annog gweithlu amrywiol, gan fod balans yn arwain at fyd gwaith gwell, ac at well cynrychiolaeth o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddod i’n diwrnodau agored hefyd, ymuno â ni mewn ffeiriau gyrfaoedd, neu edrych ar ein gwefan am gyfleoedd. Mae swydd yn y gwasanaethau brys yn un o'r swyddi mwyaf gwerthfawr y gallwch eu cael, ac mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yng Ngogledd Cymru."