Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae cartrefi yng Nghymru’n cael eu hannog i waredu eu gwastraff yn briodol a #PeidiwchRoiTanwyddaryTan

Postiwyd

Yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, mae gwasanaethau tân ledled Cymru yn annog y cyhoedd i beidio â chael eu temtio i losgi gwastraff o’r ardd neu’r tŷ.

Gall yr hyn oedd i fod yn dân bach, neu ychydig o hwyl yn unig, ymledu'n gyflym a mynd allan o reolaeth.


Y llynedd, cafwyd bron i 4000 o danau sbwriel ar draws Cymru, gyda’r prif achosion yn cynnwys bagiau bin o dai, dodrefn a dipiwyd yn anghyfreithlon a sbwriel, a losgwyd yn fwriadol.

Gall y cyfan ddechrau gyda'r bagiau bin ychwanegol hynny, neu’r soffa wedi'i dorri oedd wedi cael ei gadael allan y cefn, heb ei weld, heb ei gofio ... heb feddwl, gallech roi cyfle i rywun gynnau tân a allai ledaenu, gan beryglu difrod i eiddo, anafiadau a hyd yn oed farwolaeth.

 

Mae tanau sbwriel yn beryglus dros ben a gallant arwain at straen ar adnoddau, ar adegau pan allai argyfyngau eraill fod lle mae bywydau mewn perygl.

Gall mwg tân hefyd waethygu cyflyrau’n ymwneud â’r llwybrau anadlu, y croen a'r llygaid, gan achosi pesychu, gwichian, diffyg anadl a phoen yn y frest. Gall pobl ag asthma a chlefydau anadlol eraill fynd yn sâl achos mwg tân. Mae'r bobl hyn hefyd mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19. Peidiwch â gwneud pethau'n fwy anodd iddynt, GIG, na'r gwasanaethau brys drwy gynnau tân.


Os ydych chi'n dewis dympio sbwriel, gallech chi fod yn paratoi’r ffordd i dân gan ddewis cyfrannu at drychineb. Cymerwch gyfrifoldeb a gwnewch yn siwr bod eich gwastraff yn cael ei waredu'n briodol.

Dywedodd Tim Owen, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadaol: 'Gall un neu ddau o fagiau o sbwriel neu ddarn o ddodrefn a adawyd ddenu mwy – mae hyn yn gost i ni i gyd, yn draul ar adnoddau gwasanaethau brys, difrod amgylcheddol, colli bywyd gwyllt a pherygl i eiddo yn ogyystal â bywydau yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol. Hoffwn atgoffa'r preswylwyr bod ganddynt rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i wneud yn siwr bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n iawn. Rydym yn argymell y dylid defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig bob amser a gofyn am weld hawlen, trwydded neu dystysgrif eithrio."


Dywedodd Gareth Davies, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru,: "Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod ein gwastraff yn cael ei waredu'n briodol, gan ddefnyddio gweithredwyr gwastraff cyfreithlon. Rhaid i unrhyw un sy'n cynnig gwasanaethau gwaredu gwastraff fod wedi cofrestru gyda ni – gallwch wirio a ydynt wedi gwneud hyn ar ein gwefan. Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn arswydo o ddarganfod bod eu sbwriel wedi cael ei dipio'n anghyfreithlon. A byddent yr arswydo lllawn cymaint pe gellid olrhain y gwastraff yn ôl iddynt."

Cymerwch gyfrifoldeb. Peidiwch roi tanwydd ar y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen