Dynes yn yr ysbyty yn dilyn tân yn ei chartref yn Abergele
PostiwydGalwyd criwiau o Abergele a Bae Colwyn i eiddo yng Ngorwel, Abergele am 15.56 o’r gloch, Dydd Mawrth 14eg Ebrill.
Achubwyd dynes, y credir ei bod yn ei saithdegau, o’r eiddo gan swyddogion heddlu a oedd yn digwydd bod yn yr ardal ar y pryd.
Cafodd ei chludo i’r ysbyty am driniaeth a chredir ein bod mewn cyflwr difrifol. Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru.