Tân yn safle tirlenwi Chwarel Hafod, Rhiwabon
PostiwydGalwyd diffoddwyr tân at dân sylweddol ar safle tirlenwi ger Wrecsam neithiwr (Nos Fercher 27 Mai 2020) ac maent dal yn bresennol y bore yma.
Anfonwyd criwiau o Johnstown, Wrecsam, Llangollen, Ellesmere, y Waun a Llangollen, ynghyd â’r uned meistroli digwyddiadau, i safle tirlenwi Chwarel Hafod yn Rhiwabon am 19.12 o’r gloch neithiwr.
Cynghorwyd trigolion yng nghyffiniau Ffordd Bangor, Rhiwabon i gadw drysau a ffenestri ar gau neithiwr oherwydd y mygdarthau gwenwynig a oedd yn yr aer wrth i ddiffoddwyr tân ymladd y tân.
Y bore yma, mae diffoddwyr tân yn dal i ddelio gyda’r digwyddiad ac oherwydd bod cyfeiriad y gwynt wedi newid mae’r mwg nawr yn effeithio ar dref Wrecsam, a chynghorir trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau.
Bydd y digwyddiad yn destun ymchwiliad maes o law.
Meddai Jeff Hall, Pennaeth Safle’r digwyddiad: “Oherwydd natur y digwyddiad byddwn ar y safle am beth amser, am y 24 awr nesaf yn ôl pob tebyg. Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid o Gyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Siriol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod y digwyddiad yn dod dan reolaeth ac i amddiffyn trigolion lleol.”