Gwraig yn marw mewn tân mewn eiddo yn Bontddu
PostiwydMae gwraig wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yn Bontddu.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw at dân mewn eiddo ar ffordd yr A496 yn Bontddu am 9.09am fore heddiw (dydd Gwener, 5ed Mehefin).
Cafodd peiriannau tân o Ddolgellau, Harlech, Abermaw, Bala a Blaenau Ffestiniog, un peiriant ALP, un pwmp cyfaint mawr a’r uned rheoli digwyddiad eu hanfon yno.
Cafodd gwraig ei hachub gan ddiffoddwyr tân, ond yn anffodus bu farw yn y fan a’r lle.
Bydd yr hyn a achosodd y tân yn destun ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.