Cais i bobl gadw pellter cymdeithasol yng ngogledd Cymru
Postiwyd
Mae sefydliadau ar draws gogledd Cymru yn cydweithio i atgoffa pobl ifanc o’r angen i gadw pellter cymdeithasol a helpu i atal lledaeniad Covid-19.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn y rhanbarth yn cadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol, mae tystiolaeth anecdotaidd yn dangos nad ydi pob person ifanc yn gwrando ar y neges - sy’n adlewyrchu’r pryderon ar draws y wlad.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru o ran cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr yn parhau, yn ogystal â’r cyngor i gadw at y mesurau hylendid. O heddiw (dydd Llun), mae hi’n hanfodol i bawb dros 11 oed wisgo mygydau mewn siopau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi na all mwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig gwrdd dan do ar unrhyw adeg (nid yw hyn yn cynnwys plant 10 oed neu iau.
Meddai’r Cyng. Hugh Evans, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, yr awdurdod sy’n cydlynu’r ymgyrch: “Rydym ni’n falch iawn o ymdrechion cymunedau Gogledd Cymru. Maen nhw wirioneddol wedi chwarae eu rhan i geisio atal lledaeniad Covid-19 yn ein rhanbarth.
“Fodd bynnag, ni allwn orffwys ar ein bri ac mae parhau i gadw pellter cymdeithasol cyn bwysiced ag erioed. Dydi llacio’r rheolau ddim yn golygu bod Covid-19 wedi diflannu. Mae yna berygl y gallwn ni wynebu ail don o’r haint yn yr hydref, ac felly rŵan ydi’r amser i bawb chwarae eu rhan.
“Mae tystiolaeth anecdotaidd yn dangos nad ydi pawb yn cadw pellter cymdeithasol. Mae hon yn broblem ymhob rhan o Gymru a’r cwbl y gallwn ni ei wneud ydi parhau i atgoffa pobl o’r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol a gobeithio y byddan nhw’n gwrando.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd ein partneriaid ar draws gogledd Cymru yn parhau i hyrwyddo’r negeseuon cadw pellter drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’r wasg leol. Hyn a hyn fedrwn ni ei wneud ac mae’n rhaid i’r ychydig o bobl hynny nad ydyn nhw’n cadw pellter cymdeithasol gymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad.
“Rydym ni’n mynd trwy hyn gyda’n gilydd ac mae’n rhaid i ni gydweithio i geisio atal cyfraddau Covid-19 rhag cynyddu yng ngogledd Cymru.”