Tân yn yr awyr agored yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam
PostiwydMae criwiau o Wrecsam, y Waun a Llangollen wrthi'n delio gyda thân yn yr awyr agored yn Llwyneinion, Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.
Mae tunnell o hen deiars ar dân ar dir coediog.
Mae'r tân dan reolaeth ac mae'r diffoddwyr tân wrthi'n tampio'r safle.
Gofynnwn i bobl gadw draw o'r ardal, a dylai pobl sydd yn byw gerllaw gadw eu ffenestri a drysau ar gau.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.