Cadwch yn Ddiogel y Nadolig hwn - Cadwch ddiogelwch mewn cof!
PostiwydGyda goleuadau Nadolig yn cael eu rhoi ymlaen ledled y rhanbarth mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion i ddilyn ambell gyngor syml i gadw’n ddiogel dros yr ŵyl.
Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rwy’n gwybod y bydd trigolion ledled y rhanbarth yn paratoi eu harddangosfeydd ac rwy’n gofyn iddynt wneud hynny’n ddiogel, trwy beidio â gorlwytho socedi a defnyddio ceblau diogelwch pwrpasol gyda’r ffiws cywir.
“Bydd nifer ohonoch wedi gofyn am bob math o ddyfeisiadau trydanol y Dolig hwn - ond byddwch yn hynod wyliadwrus er mwyn atal tân a all ddinistrio’ch cartref chi a phopeth ynddo, neu’n waeth byth anafu neu ladd rhywun yr ydych chi’n ei garu.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gadw’n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân trwy ddilyn y deuddeg cyngor isod dros yr ŵyl:
- Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau Nadolig yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch sy’n medru achub bywydau trwy ddiffodd y pŵer ar unwaith).
- Cadwch ganhwyllau’n ddigon pell oddi wrth eich coeden Nadolig, dodrefn a llenni. Peidiwch â’u gadael yn llosgi pan nad ydych yn yr ystafell.
- Gwnewch yn siŵr bod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros dros y Nadolig yn gwybod beth i’w wneud os oes argyfwng. Lluniwch gynllun dianc a’i ymarfer.
- Gall addurniadau losgi’n hawdd. Peidiwch â’u hongian ar oleuadau nac wrth wresogyddion.
- Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, oni bai eu bod yn bethau sydd i fod i gael eu gadael ymlaen.
- Cymerwch bwyll arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch nhw a thynnu’r plwg cyn i chi fynd i’r gwely. Mae’r Nadolig yn adeg pan fyddwn yn defnyddio mwy o eitemau trydanol - peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau, defnyddiwch geblau estyn aml blwg gyda’r ffiws cywir. Edrychwch ar y gyfrifiannell ampau yn www.gwastan-gogcymru.org.uk /eich cadw chi’n ddiogel/ gofalu am offer trydanol neu dilynwch y ddolen hon /looking-after-the-electrics.aspx?lang=en
- Mae’r rhan fwyaf o danau yn cychwyn yn y gegin - peidiwch â gadael bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae’r risg o ddamwain, yn enwedig yn y gegin, yn uwch ar ôl yfed alcohol.
- Os ydych yn bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch nhw mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt ar ôl eu tanio a chadwch fwced o ddŵr gerllaw.
- Gwnewch yn siŵr bod sigaréts wedi eu diffodd yn llwyr.
- Gwiriwch y batri yn eich larwm mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig i’ch atgoffa i’w lanhau a chael gwared â llwch.
- Cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis ymhell o gyrraedd plant.
- Cymerwch yr amser i wneud yn siŵr bod perthnasau a chymdogion yn iawn y Nadolig hwn - sicrhewch eu bod yn ddiogel rhag tân yn ogystal â gofalu am eu lles.
Ychwanegodd Kevin: “Mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain dros yr ŵyl, ond gofynnwn iddynt gadw diogelwch tân mewn cof wrth ddathlu. Hoffwn hefyd atgoffa trigolion ynglŷn â pheryglon coginio ar ôl yfed alcohol - ‘dyw coginio ac yfed ddim yn gyfuniad doeth. Bydd y Nadolig hwn yn wahanol gan y bydd partis Dolig a nosweithiau allan wedi eu canslo felly cymrwch bwyll wrth yfed a choginio yn y cartref.
"Mae’n rhaid i bob un ohonom ystyried y canlyniadau posibl a chadw diogelwch mewn cof i gadw’n ddiogel.
“Hoffwn hefyd ofyn i bawb ystyried teulu neu gymdogion a all fod yn agored i niwed, a sicrhau bod eu cartrefi hwythau’n ddiogel hefyd. Mae’r rhybudd cynnar a roddir gan larwm mwg yn helpu pobl i ddianc yn ddianaf mewn da bryd.”
Ewch i’n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth diogelwch 12 Diwrnod y Nadolig am gyfle i ennill hamper siocled. www.facebook.com/northwalesfire