Dangos parch ar Noson Tân Gwyllt eleni
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n ymuno â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Ymddiriedolaeth y GIG a Heddlu Gogledd Cymru mewn apêl i helpu cadw pobl yn ddiogel yn ystod y tymor coelcerthi a thân gwyllt yma.
Gyda llawer o ddigwyddiadau a drefnwyd wedi eu gohirio, gallai pobl gael eu temtio i gynnau tân gwyllt a chael coelcerthi yn eu gerddi – ac mae pryderon y gallai hyn olygu y bydd hi’n noson brysur i’r gwasanaethau brys drwy’r rhanbarth.
Meddai Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae gostyngiad mawr wedi bod yn y nifer o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â thân gwyllt a choelcerthi wrth i’r cyhoedd wrando ar ein cais i fynychu arddangosfeydd wedi eu trefnu yn hytrach na chynnau coelcerthi eu hunain gartref.
“Rydyn ni’n pryderu y gallai’r gohiriad o lawer o arddangosfeydd tân gwyllt wedi eu trefnu, arwain at gynnydd yn yr arddangosfeydd yn y cartref ac yn yr anafiadau posibl ac rydym yn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn defnyddio tân gwyllt yn eu cartrefi.
“Os allwch chi fynychu arddangosfa wedi ei threfnu yna gwnewch hynny ar bob cyfrif – dyna’r ffordd fwyaf diogel i fwynhau tân gwyllt.
“Os fyddwch chi’n penderfynu cynnau tân gwyllt neu gael coelcerth, byddem ni’n apelio ar bawb i ddangos PARCH drwy ddilyn y cyngor a welir isod.”
Cofiwch mai ffrwydron yw tân gwyllt, ac felly, dylid eu trin gyda pharch a dim ond eu defnyddio drwy ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr a’r Cod Tân Gwyllt.
Cadwch yn ddiogel os gwelwch yn dda a dilynwch y Cod Tân Gwyllt.
Ein cyngor yw:
- Cynlluniwch eich arddangosfa tân gwyllt er mwyn ei wneud yn ddiogel a hwyliog, a gwnewch yn siŵr ei fod yn gorffen cyn 11p.m.
- Prynwch y tân gwyllt sydd â’r marc CE yn unig, cadwch nhw mewn blwch sydd ar gau, gan eu defnyddio un ar y tro
- Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt gan ddefnyddio torsh os oes angen
- Cyneuwch y tân gwyllt o hyd braich gyda thapr a sefwch yn ôl
- Peidiwch â dod â fflam agored, gan gynnwys sigarennau’n agos at dân gwyllt
- Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt unwaith yr ydych wedi ei goleuo
- Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich pocedi a pheidiwch byth â’u taflu
- Anelwch unrhyw roced tân gwyllt i ffwrdd oddi wrth y gwylwyr
- Peidiwch byth â defnyddio paraffin neu betrol ar goelcerth
- Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd a bod yr ardal o’i gwmpas yn ddiogel cyn gadael
Meddai Liz Wedley, Pennaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Yn aml, bydd cynnydd yn y galwadau brys i’r gwasanaeth ambiwlans ar Noson Tân Gwyllt, gyda phobl yn dioddef anafiadau drwy losgi neu anawsterau anadlu yn dilyn anadliadau mwg.
“Byddem ni’n gofyn i bobl beidio cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau sy’n cynnig y risg gynyddol o ddioddef anaf y gellid ei osgoi, megis arddangosfeydd tân gwyllt yn y cartref neu goelcerthi didrwydded.
“Drwy ddilyn cyngor y Gwasanaeth Ambiwlans o fynychu digwyddiadau wedi eu trefnu’n unig, gallwn ni i gyd gyfrannu i helpu cadw adnoddau ambiwlans Gogledd Cymru’n rhydd ar gyfer y rhai sydd ein hangen ni fwyaf.
“Dymunwn noson ddiogel a hwyliog i bawb.”
Gall tân gwyllt roi braw i bobl ac i anifeiliaid. Yn aml, bydd pobl hŷn a phlant yn ofnus ac yn cael eu brawychu gan sŵn tân gwyllt. Wedi’r cyfan, ffrwydron yw tân gwyllt. Dywedwch wrth eich cymdogion os ydych yn cynllunio i gynnau tân gwyllt a cheisiwch beidio prynu rhai swnllyd iawn. Gofynnwn i chi fod yn ystyriol wrth gynnal parti tân gwyllt gan wneud yn siŵr fod y sŵn wedi gorffen erbyn 11pm
Ddylech chi ddim cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, ar wahân i:
- Noson Tân Gwyllt, pan mai hanner nos yw’r amser gorffen
- Nos Galan, Diwali a Blwyddyn Newydd y Tsieineaid, pan mai 1am yw’r amser gorffen
Meddai Helen Corcoran, Uwch-arolygydd Heddlu Gogledd Cymru: “Gobeithiwn y bydd pobl yn dangos agwedd gyfrifol at Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni, fel y gwnaethant 12 mis yn ôl. Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ac mae’n ddealladwy y bydd llawer yn edrych ymlaen at ddathlu’r cyfnod gyda’u teuluoedd.
“Gwyddom fod y mwyafrif o bobl yn mwynhau’r adeg hon o’r flwyddyn yn synhwyrol ac nid ydym ni eisiau dinistrio’u hwyl ond yn anffodus, mae lleiafrif sy’n benderfynol o achosi problemau a defnyddio’r dathliadau fel esgus i dorri’r gyfraith ac ymddwyn yn anghymdeithasol. Rydym eisiau cydweithio â’n cymunedau i wneud yn siŵr eu bod yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel, felly bydd gennym swyddogion allan drwy’r rhanbarth – yn helpu i addysgu, cysuro a chadw’n cymunedau’n ddiogel.