Apêl i fusnesau gynnal asesiad risg tân yn dilyn tân yn Ystâd Ddiwydiannol Spencer
PostiwydMae'r arweinydd ar gyfer Diogelwch Tân Busnes Wrecsam a Sir y Fflint yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar bob busnes i sicrhau eu bod yn cynnal asesiad risg tân ac yn ei adolygu'n rheolaidd.
Mae hyn yn dilyn tân masnachol mawr a ddigwyddodd ar Ystâd Ddiwydiannol Spencer, Bwcle nos Fawrth. Fe wnaeth y tân effeithio ar nifer o fusnesau, ac mae'r achos yn dal i gael ei ymchwilio.
Mae Neil Upton, Rheolwr Cydymffurfiaeth Wrecsam a Sir y Fflint yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn rhoi'r cyngor canlynol i berchnogion a gweithredwyr busnes:
"Er mwyn diogelu eich busnes rhag effeithiau dinistriol tân, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnal Asesiad Risg Tân a'i adolygu'n rheolaidd.
"Bydd hyn yn eich helpu i adnabod ffynonellau tanio a ffynonellau tanwydd a allai ddechrau tân.
"Dylech ddeall sut y bydd tân yn cael ei ganfod a sut y byddwch chi, eich cwsmeriaid a'ch staff yn gadael yr adeilad hefyd.
"Dylech sicrhau bod yr holl drydan yn adeiladau eich busnes yn cael ei wirio gan berson cymwys, a bod offer a pheiriannau trydanol yn cael eu gwirio a'u cynnal a'u cadw'n rheolaidd hefyd.
"Dylai'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer canfod tân a chodi'r larwm gael eu profi a'u harchwilio i gadarnhau eu bod yn gweithio'n iawn, ac mae angen i staff wybod yn union beth i'w wneud os bydd tân."
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am sut i ddiogelu eich busnes rhag tân, ewch i wefan NWFRS - www.northwalesfire.gov.wales