Tân mewn warws masnachol ger Bwcle
PostiwydMae criwiau tân wedi bod yn delio â digwyddiad dros nos yn ymwneud â thân mewn warws fasnachol fawr ar ystâd ddiwydiannol yn Sir y Fflint.
Mae peiriannu tân yn parhau i fod yn bresennol y bore yma (dydd Mercher 17eg Tachwedd).
Cafodd peiriannau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu yrru i'r tân am 17.01pm ddoe (dydd Mawrth 16eg Tachwedd).
Yn anterth y digwyddiad, roedd wyth peiriant tân yn delio gyda'r tân yn y warws ar Ystâd Ddiwydiannol Spencer yn Drury ger Bwcle, a oedd yn effeithio ar sawl uned storio a oedd yn cynnwys llawer iawn o lyfrau. Cynghorwyd trigolion lleol i gau ffenestri a drysau fel rhagofal a chyhoeddwyd cyngor hefyd ar gyfer traffig i osgoi'r ardal.
Yn ogystal, defnyddiwyd peiriant ALP, pwmp cyfaint mawr ac uned rheoli digwyddiad.
Mae diffoddwyr tân yn bresennol y bore yma yn monitro’r mannau poeth sy’n weddill ac mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn bresennol i reoli’r traffig.
Nid yw achos dros y tân wedi'i gadarnhau eto.