Tân mewn peiriant sychu dillad uwch tafarn yng Nghei Connah yn tanlinellu pwysigrwydd rhagofalon diogelwch tân elfennol
PostiwydMae Swyddog Tân yn tanlinellu pwysigrwydd cymryd gofal wrth ddefnyddio peiriannau gwyn, a sut mae cau drysau’n gallu helpu i atal tân rhag lledaenu, wedi i dân mewn peiriant sychu dillad uwch tafarn yng Nghei Connah neithiwr.
Mynychodd dau griw o Lannau Dyfrdwy a Lee Williams, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Tân Busnes y tân ar Stryd yr Eglwys, Cei Connah.
Achoswyd y tân gan beiriant sychu dillad mewn ystafell amlbwrpas ar lawr cyntaf rhan breswyl yr adeilad.
Roedd 20 o bobl wedi gorfod gadael y dafarn ar y llawr isaf, ond nid oedd neb wedi eu hanafu, diolch byth.
Credir fod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn y sychwr. Achoswyd niwed difrifol i’r peiriant a’i gynnwys gan y tân.
Eglura Lee: “Mae’r digwyddiad hwn yn tanlinellu’n amlwg sut y gall drysau helpu i atal lledaeniad tân, a pham ein bod ni’n annog trigolion i gau pob drws mewnol fel rhan o’u patrwm noswylio.
“Cafodd difrod y mwg, y tân a’r gwres ei gyfyngu i’r ystafell amlbwrpas gan fod drws yr ystafell honno ar gau. Roedd y drws hwn wedi atal y mwg, tân a’r gwres rhag lledaenu i weddill ystafelloedd preswyl y llawr cyntaf ac i lawr i’r dafarn ar y llawr isaf.
“Roedd y tân mewn peiriant sychu dillad ac wrth i’r tymheredd oeri, byddwn yn defnyddio’r peiriannau hyn yn amlach. Ond, wrth i ni eu defnyddio’n amlach, mae perygl i ni fod yn fwy esgeulus ac anghofio rhai pethau pwysig allai leihau ein risg o dân yn sylweddol.
“Dyma rai camau syml y dylem ni oll eu dilyn:
“Peidiwch â gorlwytho socedi –mae watedd uchel peiriannau sychu dillad yn golygu fod rhaid iddynt gael eu soced 13-amp eu hunain. Cadwch olwg am olion llosgi, yn cynnwys gwirio gwifrau y gellir eu gweld.
- Peidiwch â gadael peiriannu heb dalu sylw iddynt – peidiwch â chychwyn y peiriant sychu dillad cyn gadael y tŷ neu fynd i’r gwely. Mae gan beiriannau sychu dillad beiriannau pwerus sydd â rhannau symudol cyflym all fynd yn hynod o boeth.
- Gwnewch yn siŵr fod digon o aer o amgylch y sychwr, ac nad oes plŷg yn y bibell awyru ac nad yw wedi ei blocio na’i gwasgu mewn unrhyw ffordd.
- Cofiwch lanhau’r ffilter ar ôl defnyddio’ch peiriant sychu.
- Gadewch i bob rhaglen sychu, yn cynnwys y ‘cylch oeri’, gwblhau’n iawn cyn gwagu’r peiriant. Os fyddwch yn stopio’r peiriant ar ganol rhaglen, bydd y dillad yn dal i fod yn boeth.
- Peidiwch ag anwybyddu rhybuddion – os gallwch arogli llosgi neu fod y dillad yn boethach ar ddiwedd cylch, peidiwch â defnyddio’r peiriant a threfnwch fod person proffesiynol yn dod i’w weld. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr sut i ddefnyddio a gofalu am y peiriant a chofrestrwch y peiriant ar registermyappliance.org.uk – mae hyn yn galluogi’r gwneuthurwyr i gysylltu â chi os daw diffygion i’r amlwg, neu os oes angen adalw peiriannau. Gellir gweld mwy o wybodaeth am ddiffygion, neu os yw peiriannau wedi eu galw’n ôl ar wefan diogelwch offer trydanol, ‘Electrical Safety First’ www.electricalsafetyfirst.org.uk
- Y peth pwysicaf oll – gwnewch yn siŵr fod gennych larymau mwg sy’n gweithio a’ch bod yn eu profi’n rheolaidd – rydym ni’n argymell unwaith yr wythnos! Dylech sicrhau hefyd fod gennych gynllun dianc ar eich cyfer chi a’ch teulu pe byddai tân yn digwydd – ac unwaith y byddwch wedi gadael yr adeilad, dylech aros allan heb ddychwelyd am unrhyw reswm.
“Rydym ni’n cynnig gwiriadau diogel ac iach i holl drigolion Gogledd Cymru, lle bydd ein staff yn eich cynghori am batrymau noswylio ac awgrymiadau eraill i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel.
“I drefnu gwiriad diogel ac iach i chi neu i rywun arall o’ch cwmpas, cysylltwch â ni ar ein rhadffôn 0800 169 1234, e-bost cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i’n gwefan www.northwalesfire.gov.wales.
“Rydym hefyd yn cynnig cyngor diogelwch tân i berchenogion busnes a rhai allai gael ystafelloedd preswyl uwch eu busnesau – ewch i’n gwefan www.northwalesfire.gov.wales i weld mwy.”