Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a'n Gwlad
PostiwydMae Ymgyrch Dawns Glaw, sy'n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny'n bosibl, dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.
Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 i fynd i'r afael â'r achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i'r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml o ganlyniad i'n hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.
Yn ystod 2020, deliodd y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru â 2,253 o danau glaswellt. Er bod hyn yn gynnydd bach o'i gymharu â 2019, roedd nifer y tanau damweiniol yn ystod 2020 wedi cynyddu 20%. Priodolwyd y cynnydd hwn yn rhannol i'r nifer ohonom a dreuliodd fisoedd y Gwanwyn a'r Haf yn mwynhau ein cefn gwlad lleol oherwydd y cyfyngiadau symud a oedd ar waith o ganlyniad i bandemig COVID-19 – ac wrth i ni gychwyn ar flwyddyn arall lle mae'n debygol y byddwn yn aros yma yng Nghymru ar gyfer ein gwyliau, mae'r Tasglu yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn modd diogel, gan sicrhau ein bod yn diogelu’r cefn gwlad, y bywyd gwyllt a'r cynefinoedd gwerthfawr rydym oll mor falch i'w cael ar y stepen drws.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
“Gyda mwy o bobl yn mwynhau eu cefn gwlad lleol, a'r tebygolrwydd y bydd mwy o bobl yn dewis aros yng Nghymru ar gyfer eu gwyliau eleni, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cydweithio i gael gwared ar danau glaswellt a gwarchod ein hamgylchedd. Arweiniodd ymddygiad diofal at gynnydd y llynedd yn nifer y tanau glaswellt a oedd yn cael eu cynnau'n ddamweiniol.
Mae cynnau tanau glaswellt yn fwriadol mewn unrhyw fodd yn gwbl anghyfrifol ac annerbyniol. Ar adeg o bwysau cynyddol, mae angen i ni gydweithio i osgoi rhoi straen pellach ar wasanaethau brys Cymru.”
Dywedodd Mydrian Harries, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw:
"Rwy'n credu ei bod yn drawiadol dros ben ein bod yn lansio ein hymgyrch ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni wrth i ni apelio at ein natur wladgarol, gan erfyn ar bawb i gydweithio i ddiogelu'r glaswelltir a'r ardaloedd cefn gwlad yr ydym i gyd mor ffodus i'w cael ar ein stepen drws.
"Er ein bod yn gwybod bod y tywydd cynnes a brofwyd gennym yn ystod misoedd cynnar yr haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd bach mewn tanau glaswellt ledled Cymru, rydym hefyd yn gwybod bod nifer y tanau a gynnwyd yn ddamweiniol wedi cynyddu yn ogystal. "Er bod damweiniau'n digwydd, gellir eu hosgoi hefyd, a bydd ymgyrch eleni yn canolbwyntio ar ein haddysgu ni i gyd ynghylch rhai o'r camau bach y gallwn eu cymryd i sicrhau nad ydym yn achosi tân glaswellt trwy ddamwain.
"Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges, er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai eraill yn ein cymunedau sy'n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o'r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111".
Mae'r Ymgyrch hefyd yn parhau â'i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth yn ardaloedd yr ucheldir), mae'n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel. Mae'n anghyfreithlon llosgi y tu allan i'r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am #DawnsGlaw 2021 trwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru www.mawwfire.gov.uk/DawnsGlaw lle gallwch hefyd gael hyd i awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda'n gilydd gallwn atal tanau glaswellt a diogelu ein cefn gwlad a'n gwlad.
Cofiwch – Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.