Cyngor i fusnesau sy’n dychwelyd i’r gweithle ar ôl cyfnod clo
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i helpu busnesau i weithredu’n ddiogel yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub y De a Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin, mae dogfen gyfarwyddyd wedi cael ei chreu i ddarparu gwybodaeth a chyngor i fusnesau ynglŷn â dychwelyd yn ddiogel i’r gweithle yn dilyn cyfnodau clo - cliciwch yma i'w weld.
Fel yr esbonia Bob Mason, Pennaeth Diogelwch Tân ar gyfer Busnesau: “Mae’n bwysig adolygu’r Asesiad Risgiau Tân ar gyfer eich safle er mwyn sicrhau ei fod yn addas ac yn ddigonol.
“Meddyliwch a yw arferion gweithio newydd, newidiadau yn niferoedd y staff ac unrhyw addasiadau a wnaed gennych i’r safle wedi cael effaith ar y darpariaethau diogelwch tân.
“Pan fo angen, gwnewch yn siŵr fod mesurau rheoli ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith i gadw pobl yn ddiogel os bydd tân. Rhaid cadw cydbwysedd addas rhwng diogelu rhag Covid a diogelu rhag tân.”
Mae Bob hefyd wedi rhoi’r cyngor isod i fusnesau sy’n dychwelyd i’r gweithle:
- Gwnewch yn siŵr fod llwybrau dianc ac allanfeydd yn cael eu cadw’n glir bob amser er mwyn i bobl allu dianc yn sydyn a diogel os bydd tân.
- Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw newidiadau i arferion gweithio a/neu gynllun eich safle yn amharu ar allu pobl i ddianc yn sydyn a diogel mewn argyfwng.
- Profwch eich larwm tân i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio.
- Profwch eich goleuadau argyfwng i wneud yn siŵr fod pobl yn gallu gweld er mwyn dianc yn ddiogel os bydd y pŵer neu’r goleuadau arferol yn methu.
- Gwnewch yn siŵr nad yw’r drysau tân yn cael eu dal ar agor, e.e. gyda blocyn o danynt.
- Argymhellir bod staff yn golchi eu dwylo’n rheolaidd ac yn glanhau handlenni drysau ayyb.
- Gwnewch yn siŵr bod arwyddion a hysbysiadau diogelwch yn dal yn hawdd i’w gweld.
- Ewch ati i adolygu eich asesiad risgiau tân er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i’r gweithle.
Os ydych chi eisiau siarad gydag un o’n swyddogion arbenigol er mwyn cael cyngor diogelwch tân AM DDIM, cysylltwch â’r Swyddfa Diogelwch Tân yn eich ardal chi:
Gwynedd/ Môn: 01286 662999 Gwynedd.Mon@nwales-fireservice.org.uk
Sir y Fflint / Wrecsam: 01978 367870 Flintshire.wrexham@nwales-fireservice.org.uk
Sir Ddinbych / Conwy: 01745 352777 Conwy.denbighshire@nwales-fireservice.org.uk