Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dihangfa lwcus ar ôl i larwm mwg roi gwybod i deulu bod yna dân

Postiwyd

Cafodd teulu o saith ddiangfa lwcus yn yr oriau bach, bore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 6) ar ôl i larwm mwg roi gwybod iddynt bod tân yn eu cartref ar Ynys Môn. 

Am 02:45am, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wybod bod tân mewn tŷ teras ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi. 

Fe wnaeth y criwiau gyrraedd y safle a gweld bod y teulu – sef dau oedolyn a phump o blant ifanc – wedi dianc o’r tân. Aethpwyd â phawb mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor i gael archwiliad. 

Credir bod y tân wedi dechrau y tu cefn i’r eiddo, a’i fod wedi lledaenu i’r tŷ drwy’r drws cefn. Mae difrod tân wedi cael ei achosi i’r drws, ac mae difrod mwg wedi cael ei achosi i’r tu mewn i’r eiddo. 

Dywedodd y Rheolwr Grŵp Simon Bromley, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Byddwn ni’n atgoffa trigolion yn aml ei bod yn bwysig cael larymau mwg a’u profi bob wythnos, ac mae’r digwyddiad hwn yn atgyfnerthu’r neges hon. Yn ffodus, llwyddodd y teulu i ddianc ond gallai pethau fod wedi bod yn llawer gwaith petaen nhw heb gael gwybod gan y larwm mwg. 

“Rydyn ni hefyd yn annog trigolion i sicrhau eu bod yn cadw llwybrau dianc yn glir ac i sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau sy’n cael eu storio y tu allan yn cael eu storio’n ddiogel.” 

I helpu i’ch cadw chi a’ch anwyliad yn ddiogel, cofiwch ddilyn y cyngor diweddaraf am larymau mwg: 

  • Gosodwch larymau mwg ar bob lefel yn eich cartref, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr.

Gofalwch nad oes llwch arnynt, a phrofwch nhw unwaith yr wythnos er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio. 

  

Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael am gadw’n ddiogel yn  

https://www.nwales-fireservice.org.uk/keeping-you-safe/ 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen