Rhybudd larwm mwg wedi i bump o blant a dwy ddynes gael dihangfa lwcus o dân ym Mhrestatyn
PostiwydMae Swyddog Diogelwch Tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg ac yn canmol ymateb cyflym cymydog cymwynasgar a seiniodd rybudd ac achub bywyd pump o blant a dwy ddynes o dân yn eu cartref ym Mhrestatyn.
Galwyd criwiau o’r Rhyl, Prestatyn ac Abergele i’r eiddo yn Rhodfa’r Tywysog, Prestatyn am 05.08 o’r gloch, Ddydd Sul Ebrill 18.
Cafodd y ddwy ddynes a’r pum plentyn eu rhybuddio am y tân wedi i’w cymydog weld fflamau a mynd i gnocio ar y drws nes deffro pawb.
Nid oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo.
Cludwyd un ddynes i’r ysbyty am driniaeth ragofalol, a chafodd bawb arall driniaeth ragofalol yn y fan a’r lle.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan farwor o dân a oedd wedi bod yn llosgi y tu allan ac a ledaenodd ar hyd y ffens i fondo’r adeilad. Fe achosodd y tân ddifrod tân 100% i’r to, difrod mwg 80% i weddill yr eiddo a difrod fflamau i gefn yr eiddo.
Meddai Mike Edwards o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd yn ddihangfa lwcus iawn - oni bai bod y cymydog wedi gweld y fflamau a gweithredu ar unwaith trwy redeg drws nesaf a chnocio ar y drws nes deffro pawb fe allem fod wedi bod yn delio gyda digwyddiad trasig iawn.
“Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg ac ymarfer cynlluniau dianc - fe all tân ddigwydd pan nad ydych yn ei ddisgwyl, yn aml iawn gyda’r nos. Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar er mwyn rhoi cyfle i bawb fynd allan yn ddiogel. Mae hefyd werth meddwl sut y byddech chi’n dianc mewn achos o dân, a sicrhau bod eich goriadau mewn lle cyfleus er mwyn i chi allu agor drysau sydd wedi eu cloi. Yn yr achos hwn nid oedd y trigolion yn gallu dod o hyd i oriad y drws ffrynt ac roedd yn rhaid iddynt fynd allan drwy’r drws cefn lle’r oedd y tân. Fe all gorfod ymateb i dân ynghanol y nos eich gwneud chi’n ddryslyd iawn - fe all cynllunio ymlaen llaw ac ymarfer eich cynllun dianc gyda’ch teulu wneud gwahaniaeth mawr.
“Credir bod y tân wedi ei achosi gan dân a oedd wedi bod yn llosgi mewn cynhwysydd y tu allan ar ôl llosgi gwastraff gardd yn gynharach y noson honno.
“Gair o rybudd - fe all tanau ledaenu’n gyflym iawn ac mae’n anodd iawn eu darogan.
“Rydym wedi cael ein galw at danau di-rif sydd wedi lledaenu o’r tu allan i mewn i’r eiddo.
“Weithiau mae pobl yn llosgi gwastraff neu eitemau diangen ar eu tir, yn aml iawn yn yr ardd gefn. Rydym yn eich cynghori i beidio â gwneud hyn. Gofynnwn i drigolion gael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol a defnyddio’r safleoedd mwynder dinesig os oes modd. Os oes raid i chi gynnau tân, yna byddwch yn gyfrifol, gwnewch yn siŵr bod gennych fesurau rheoli ar waith ac ystyriwch yr effaith a all ei gael ar dai cyfagos.
“Rydym am gadw ein cymunedau’n ddiogel, ac felly rydym yn cynnig archwiliad diogel ac iach rhad ac am ddim i bawb - bydd aelod o’r Gwasanaeth yn rhoi cyngor i chi, eich helpu i lunio cynllun dianc a darparu larymau mwg newydd - a’r cyfan am ddim.
“I gofrestru am archwiliad diogel ac iach, ffoniwch ein rhif ffôn 24 awr ar 0800 169 1234.”