Tân angheuol mewn tŷ yn Nhreffynnon
PostiwydYn anffodus mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir y Fflint yn ystod oriau mân y bore (dydd Sul, Mehefin 20fed).
Ychydig ar ôl 01: 30hrs hysbyswyd yr heddlu o dân mewn tŷ mewn eiddo ar Moor Lane yn Nhreffynnon.
Mynychodd y gwasanaethau brys, ond yn anffodus roedd y ddynes, oedd yn ei 30au ac a oedd yr unig ddeiliad yn yr eiddo, wedi marw yn y fan a’r lle. Mae ei pherthynas agosaf wedi cael gwybod.
Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru bellach ar y gweill i sefydlu beth ddigwyddodd.
Cydymdeimlwn â theulu'r ddynas ar yr adeg anodd hon.