Diweddariad Pwysig: NI fydd ein ffenestr recriwtio diffoddwyr tân llawn amser yn agor fel y cynlluniwyd
PostiwydNI fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn agor ffenestr recriwtio ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser fel y cynlluniwyd yr wythnos nesaf ddydd Llun 20 Medi.
Mae'r broses recriwtio diffoddwyr tân llawn amser yn cael ei seibio am y tro.
Rydym yn gwybod y bydd hyn yn siomedig i'r rhai sy'n edrych ymlaen at wneud cais ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster.
Fodd bynnag, er bod ein cynlluniau wedi newid, byddwn yn ymgymryd â recriwtio llawn amser yn y dyfodol felly cofiwch gynnal eich diddordeb ac edrych allan ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ailddechrau'r broses.
Diolch am eich dealltwriaeth