Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
PostiwydCyflwynodd Arglwydd Raglaw Clwyd, Mr Harry George Fetherstonhaugh OBE Fedalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i staff gweithredol y Gwasanaeth yn ystod Seremoni Gyflwyno a gynhaliwyd tu allan i bencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd yn Llanelwy neithiwr (Dydd Iau Medi 9fed).
Cyflwynir y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i ddiffoddwyr tân gan Gynrychiolydd Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.
Meddai Dawn Docx, Prif Swyddog Tân: "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig i bob diffoddwr tân ac mae’r seremoni hon yn dangos ymrwymiad ac ymroddiad pob un o’r derbynwyr i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru. Gall pob derbyniwr gymryd balchder a boddhad wrth dderbyn eu Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da neu Wobr Gwasanaeth Ffyddlon.
"Oherwydd yr amgylchiadau coronafeirws, y llynedd bu’n rhaid i’r Gwasanaeth wneud y penderfyniad anodd i ohirio Seremoni Wobrwyo 2020 er mwyn amddiffyn staff a gohirio nes ei bod yn ddiogel dod â phobl ynghyd i gydnabod cyflawniadau gweithwyr yn iawn.
"Roeddwn wrth fy modd eleni felly ein bod wedi gallu trefnu cydnabyddiaeth briodol o staff tra hefyd yn cynnal diogelwch Covid.
"Mae fy llongyfarchiadau a diolch o galon i bawb a fynychodd, yn ogystal ag i'r staff a ddewisodd dderbyn eu medalau neu eu cydnabyddiaeth yn breifat. Gwerthfawrogir eich gwasanaeth yn wirioneddol, gennyf i fel Prif Swyddog Tân, eich cydweithwyr a chan y cymunedau yr ydym i gyd yn eu gwasanaethu."
Meddai’r Cynghorydd Peter Lewis, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Ar ran Aelodau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, hoffwn longyfarch pawb sydd wedi derbyn medal. Diolch yn fawr i chi am eich ymroddiad."