Tân yn Nhremadog
PostiwydMae diffoddwyr tân ar hyn o bryd yn delio â thân mewn uned ddiwydiannol ar y Stryd Fawr yn Nhremadog.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad am 11.23yb heddiw (dydd Mercher 23 Chwefror).
Mae peiriannau o Borthmadog, Harlech, Nefyn, Pwllheli a Dolgellau ynghyd â'r Peiriant Ysgol ac Esgynlawr (ALP) o'r Rhyl yn bresennol.
Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym yn cynghori pobl i gadw ffenestri a drysau ar gau tra bod ein criwiau’n delio â’r digwyddiad hwn ac i gadw draw o’r ardal er eich diogelwch eich hun tra bod diffoddwyr tân yn taclo’r tân.”