Darganfod dyn yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhrestatyn
PostiwydGalwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn adroddiadau o dân mewn bynglo sengl ar Ffordd Stephen, Prestatyn am 9.11 bore ‘ma, Mawrth 15.
Daethpwyd o hyd i gorff dyn y credir iddo fod yn ei 70au tu mewn i’r eiddo.
Dywedodd Justin Evans o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, “Estynnaf fy nghydymdeimlad llwyraf gyda theulu a ffrindiau’r gŵr hwn.
“Mae ymchwiliad ar y cŷd i achos y tân gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.”