Criwiau yn mynychu tanau gwyllt ym Maentwrog ac Aberdeunant
PostiwydMae criwiau ar hyn o bryd yn mynychu dau dân mawr yn yr awyr agored yn y lleoliadau canlynol:
Maentwrog (amser galwad 15.58) – chwe chriw yn bresennol ar hyn o bryd ac un uned rheoli digwyddiad ar y ffordd
Aberdeunant, Gwynedd (amser galw 14.41) – pum criw yn bresennol a phump arall ar y ffordd.
Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Diolch yn fawr i’r cyhoedd am eu galwadau ynglŷn â’r digwyddiadau hyn – mae criwiau yn bresennol ac yn taclo’r tanau.
“Mae’r tanau mawr hyn yn golygu bod ein hadnoddau ar hyn o bryd dan bwysau sylweddol.
“Mae llawer o’r tanau gwyllt rydyn ni wedi mynd iddyn nhw yn ‘llosgiadau rheoledig’, sydd wedi lledu. Nid yw llosgiadau rheoledig bob amser yn angenrheidiol a dylai pobl feddwl ddwywaith cyn rhoi cynnig arnynt. Peidiwch â llosgi oni bai bod gwir angen. Os oes angen i chi losgi cyn diwedd tymor llosgi’r ucheldir ddydd Iau, gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun llosgi yn ei le, bod gennych adnoddau digonol i reoli’r tân a’ch bod yn hysbysu ein hystafell reoli ar 01931 20522006.
“Byddwn hefyd yn apelio ar y cyhoedd i fod yn ymwybodol pan fyddant allan yng nghefn gwlad, ac i adrodd am unrhyw beryglon tân posibl neu gynnau tanau’n fwriadol.”