Apwyntiwyd Deri’n rhan o bartneriaeth Cartrefi Conwy a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
PostiwydMae llwyddiant cynllun diogelwch arloesol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda chymdeithas dai Cartrefi Conwy yn parhau gydag apwyntio gweithiwr cefnogi newydd i helpu i warchod preswylwyr rhag tannau yn eu cartrefi.
Mae gan y Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref, Deri Cottle, gyfoeth o brofiad a enillodd wedi 17 mlynedd o weithio o fewn Adran Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae’r bartneriaeth hon, a beilotwyd saith mlynedd yn ôl, yn cynnig Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref a ariennir ar y cyd i leihau’r nifer o dannau o fewn eiddo Cartrefi Conwy.
Mae Cartrefi Conwy’n gymdeithas dai sydd â mwy na 4000 o gartrefi. Maent yn ymroddedig i ddatblygu a gwella cymunedau drwy fuddsoddi yn nyfodol y tenantiaid a’u cartrefi.
Eglura Simon Bromley, Pennaeth Diogelwch Tân Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Siroedd Conwy a Dinbych ymhellach:
“Prif rôl Deri yw hybu a gweithredu Gwiriadau Diogel ac Iach gyda thenantiaid Cartrefi Conwy. Mae llawer o’r tenantiaid hyn yn oedrannus neu’n fregus – ac fe all ein cyngor a’n cefnogaeth ni wneud gwahaniaeth sylweddol i’w diogelwch.
“Mae Gwiriad Diogel ac Iach yn fodd i ni helpu preswylwyr i nodi peryglon posibl o fewn eu cartref, a helpu i leihau’r risgiau cysylltiedig. Gall Deri gynnig cyngor sut i gadw’n ddiogel rhag tân, ac fe all gynnig sawl ymyriad rhad ac am ddim i’w helpu i wneud hyn. Hefyd, gallwn helpu i ystyried cynllun dianc o’r adeilad, felly, pe byddai argyfwng, byddai pawb o fewn yr adeilad yn cael y cyfle gorau posibl i adael, cyn gyflymed ac mor ddiogel ag sy’n bosibl.
“Mae’r trafodaethau hyn hefyd yn rhoi cyfle i breswylwyr i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt am ddiogelwch eu cartref, megis rhai’n ymwneud â llithro, baglu a chwympo, profi eu larymau mwg, a chael cyngor am ddiogelwch trydanol.
“Mae pob tenant newydd yn cael gwiriad ac rydym yn gweithio’n agos gyda Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth i helpu i wella diogelwch unrhyw breswylwyr all fod yn fregus. Gwneir oddeutu 500 gwiriad yng nghartrefi Conwy drwy’r cynllun hwn gyda’i gilydd bob blwyddyn.
“Mae rôl Deri o fewn y sefydliad yn ein helpu ni hefyd i gynnig cyngor i Gartrefi Conwy a’u helpu i adnabod unrhyw batrymau ddaw i’r golwg.
“Rwy’n hynod o falch o’r berthynas waith agos a ddatblygwyd rhyngom â Chartrefi Conwy yn ystod y blynyddoedd. Mae’n wych gweld Deri’n parhau â’r gwaith da hwn, yn rhoi o’i brofiad eang o wneud gwiriadau diogel ac iach. Teimla Deri’n angerddol am gadw ei gymuned yn ddiogel, ac mae’n gweddu’n berffaith i’r rôl yma lle mae cydweithio gyda’n gilydd i warchod ein cymunedau’n hanfodol.”
Meddai Deri: “Mae’r rôl yma’n gyfle gwych i ymgysylltu â phreswylwyr allai fod yn fregus, gan wneud gwahaniaeth i’w diogelwch.
“Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn ein galluogi ni i gyfarfod â thenantiaid wyneb yn wyneb yn eu cartrefi, ac mae’r cysondeb o gael un person yn y rôl hon yn ein helpu i greu cysylltiadau gyda’r preswylwyr a nodi unrhyw faterion allai godi.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Grŵp, Andrew Bowden o Gartrefi Conwy: "Rydym yn falch iawn i groesawu Deri atom ac yn hynod falch am y modd y mae’r bartneriaeth hon wedi esblygu. Rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am flynyddoedd lawer ac mae cael arbenigwr yn ein plith yn tawelu pryderon ein tenantiaid ac yn eu cysuro o wybod ein bod yn cymryd eu hiechyd a’u diogelwch o ddifrif. Gan weithio ochr yn ochr â’n Swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, bydd Deri’n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’n tenantiaid mwyaf bregus."