Tân yn Rhyd Uchaf - diweddariad
PostiwydMae diffoddwyr tân wedi tynnu’n ôl o weithgareddau diffodd tanau gwyllt yn Rhyd Uchaf, Gwynedd heno oherwydd goblygiadau diogelwch gweithredu mewn tywyllwch.
Fodd bynnag, bydd diffoddwyr tân yn monitro’r digwyddiad drwy’r nos a bydd criwiau’n ailddechrau diffodd tanau yn y golau cyntaf yfory.
Rydym yn ymwybodol bod y tân i’w weld am filltiroedd ac nid oes angen i’r cyhoedd ein ffonio ynglŷn â’r digwyddiad hwn.