Tân yn Tanygrisiau
PostiwydMae diffoddwyr yn parhau i fod yn bresennol mewn tân gwyllt yn Nhanygrisau, Gwynedd.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad am 12.12 o’r gloch y prynhawn yma (dydd Sul 27.3.22).
Mae cyfanswm o 10 peiriant tân, un uned mynediad cul, ac un uned rheoli digwyddiadau yn bresennol.
Ar hyn o bryd mae swyddogion yn taclo'r tân yn ardal Moel Ystradau gerllaw.
Dywedodd y Rheolwr Ardal Paul Scott: “Rydym yn debygol o aros yn bresennol yn y digwyddiad hwn am beth amser.
“Rydym yn cynghori pobl i osgoi’r ardal ac i gadw ffenestri a drysau ar gau os ydych chi’n cael eich effeithio gan bresenoldeb mwg.
“Mae ein criwiau’n gweithio’n galed iawn dan amodau anodd i reoli lledaeniad y tân.
“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o danau gwyllt mawr yr ydym wedi mynd iddynt yr wythnos hon sy’n dreth enfawr ar ein hadnoddau.
“Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i unrhyw un sy’n ystyried llosgi dan reolaeth gael cynllun llosgi yn ei le ac i roi gwybod i ni ymlaen llaw am amser, dyddiad a lleoliad y llosgi.
“Pwysicach fyth ar hyn o bryd yw ystyried a yw llosgi dan reolaeth yn gwbl angenrheidiol, oherwydd mae risgiau sylweddol ynghlwm wrth hyn – yn enwedig pan fo’r tywydd mor sych.
“Yn siomedig, mae yna rai pobl o fewn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig yw hyn yn drosedd, y byddan nhw’n cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn rhoi ein cymunedau mewn ffordd niwed.
“Cofiwch - Os ydych allan yn mwynhau cefn gwlad ac rydych yn dod ar draws unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”